Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau'r gwaith o ail osod wyneb y ffordd yng Nghroes Cwrlwys

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau ar y gwaith o ail osod wyneb y ffordd yng Nghroes Cwrlwys mewn project a redir mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd gyda’r bwriad i wella un o’r llwybrau leol prysuraf.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



 

Canolbwyntir yn gyntaf ar y gylchfan, gyda gwaith yn cael ei wneud rhwng 8.00pm a 6.00am o ddydd Llun i ddydd Iau ac ni fydd cyfyngiadau ar ffyrdd yn ystod y dydd er mwyn peidio â tharfu ormod ar y cyhoedd.

“Dyma waith pwysig ar ardal a ddefnyddir gan nifer eithriadol uchel o bobl. Mae’n hollbwysig bod y seilwaith hwn yn y cyflwr gorau, sef y rheswm ein bod ni, ochr yn ochr â chydweithwyr o Gyngor Caerdydd, wedi penderfynu mynd i’r afael â’r project hwn."- Cyng Geoff Cox, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.  

Culverhouse Cross

Bydd yr wyneb tarmac newydd yn cynnwys deunydd arbennig sy’n debyg o bara, wedi’i ddylunio i ymdopi â lefel uchel o draffig.

 

Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ddydd Sul 22 Hydref ac amcenir y bydd yn cymryd pythefnos i’w gwblhau.

 

 

Arwyneb y ffyrdd

 

 

Ar ôl cwblhau’r gwaith, caiff gwaith pellach ei wneud i ail osod yr wyneb ar hyd yr A48 hyd at Tumble Hill, yn ystod amseroedd tebyg i’r cam cyntaf a disgwylir i’r gwaith hwnnw hefyd bara am bythefnos.

 

Yn ystod y gwaith, caiff y gyffordd ei rheoli gan gyfyngiadau lôn ac er gwaethaf y mesurau fydd wedi’u cymryd, mae rhywfaint o oedi'n bosibl.

 

Caiff llythyron eu hanfon at drigolion a busnesau lleol yn rhoi gwybod iddynt am y project.