Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn gwario £400,000 i wella cyfleuster tai gwarchod 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwario bron i £400,000 wrth wella cyfleuster tai gwarchod i’r henoed yn y Bont-faen.

 

  • Dydd Mawrth, 10 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



 

Mae’r project, wedi’i ariannu’n rhannol trwy grant, wedi cael arian gan Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru.

 

Mae Longmeadow Court yn cynnwys 24 fflat, gyda staff rheoli ar y safle i ofalu am breswylwyr.

 

Yn rhan o’r gwaith adnewyddu, adeiladwyd estyniad deulawr, mannau storio ychwanegol a chyfleusterau golchi dillad ac uwchraddiwyd y mannau cyffredin i gynnwys toiledau hygyrch. Mae hyn wedi galluogi pobl fregus yn yr ardal amgylchynol i gael y cyfle i ddod yn rhan o’r cynllun.

 

 

Sheltered housing


Mae’r estyniad yn cynnwys dwy uned lety newydd i bobl sy'n barod i adael yr ysbyty, ond nad ydynt yn barod i fynd adref eto.

 

Gall unigolion o’r fath aros yno tra maent yn gwella’n fwy a thra bod unrhyw addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i’w heiddo.

 

Gwnaethpwyd y gwaith adeiladu yn Longmeadow Court yn rhan o’r Project Datrysiadau Tai, sy’n cynnwys partneriaeth arloesol rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Dinas Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gofal a Thrwsio Cymru ac Age Connects Cymru.

 

Ynghyd mae’r pum sefydliad yn gwneud addasiadau lefel isel cyflym i dai cleifion fel y gallant ddychwelyd i’w cartref cyn gynted â phosibl.

 

 

Pan nad yw hyn yn bosibl, mae’r tîm yn trefnu arhosiad mewn eiddo wedi’u dylunio’n arbennig y'u gelwir yn unedau ‘camu i lawr’ fel y rhai yn Longmeadow Court er mwyn cynorthwyo cleifion i wella.

 

Yn 2015/16 cynigiodd Caerdydd a’r Fro 8 uned camu i lawr i gleifion yr oedd angen llety byrdymor arall arnynt, a oedd yn golygu y gallent gael eu rhyddhau o’r ysbyty.

 

Helpodd hyn i osgoi nifer sylweddol o ddiwrnodau yn yr ysbyty lle byddai unigolion penodol wedi aros, pe na bai’r llety hwn ar gael.

 

Dros flwyddyn, defnyddiwyd tair uned yn y Fro gan 16 o bobl a osgowyd 297 o ddiwrnodau yn yr ysbyty.

 

 

“Rydym wedi buddsoddi’n fawr i wella cyfleusterau yn Longmeadow Court ac rwy’n falch o weld bod yr arian wedi’i ddefnyddio i wneud gwelliannau mawr i'r adeilad. Rhaid rhoi clod i’r Cyng. Bronwen Brooks, a gychwynnodd bopeth ar y project hwn tra roedd hi yn y swydd.

 

“Mae cyfleusterau golchi dillad a thoiledau ymhlith yr ardaloedd sydd wedi’u huwchraddio, ynghyd â mannau cyffredin, ond efallai mai'r gwaith mwyaf oedd adeiladu dwy uned lety newydd. Mae’r rhain yn benodol ar gyfer pobl na ddylent fod yn yr ysbyty ond nad ydynt yn barod i fynd adref eto. Dylai cynnig darpariaeth o’r fath wacau gwelyau ysbyty ar gyfer pobl y mae eu hangen fwyaf.”  -  Cyng. Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gofal Cymdeithasol