Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn teithwyr yn byw yn Nhrwyn Nell

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymryd camau brys ar ôl i deithwyr fod yn byw heb awdurdod ym maes parcio Trwyn Nell yn Ynys y Barri.

 

  • Dydd Mercher, 11 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Gyda’r gatiau wedi cloi, aethon nhw i mewn i'r ardal nos Fawrth drwy yrru dros y dannedd ger allanfa'r maes parcio.
Mae swyddogion y Cyngor wedi rhoi gwybod i'r grŵp nad oedd ganddyn nhw hawl i aros yna, eu bod nhw'n gweithredu'n anghyfreithlon ac na fyddai hyn yn cael ei oddef.


Mae’r heddlu wedi cael gwybod ac mae prosesau cyfreithiol ar waith i sicrhau bod modd eu troi allan cyn gynted â phosibl.


nells1Fodd bynnag, mae proses lem y mae’n rhaid ei dilyn os oes grwpiau sipsiwn a theithwyr yn symud i ran o dir, ac unwaith y mae hyn wedi'i gwblhau bydd y teithwyr yn derbyn dyddiad penodol y bydd yn rhaid iddyn nhw adael y safle.


Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod modd datrys y mater cyn gynted â phosibl. 


Yn y cyfamser, mae arwyddion wedi’u codi yn rhoi gwybod i’r cyhoedd am y sefyllfa, bydd swyddogion yn aros ar y safle i fonitro unrhyw ddatblygiadau a bydd y maes parcio wedi cau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Cyng John Thomas: “Mae meddiannaeth tir y Cyngor yn y modd hwn yn gwbl annerbyniol. Nid oedd yr ardal yma wedi cael eu hadeiladu ar gyfer y pwrpas yma, ac mae presenoldeb y grŵp yn atal preswylwyr sydd yn ddeddfgadwol i ddefnyddio’r lle. 
“Rydym yn cymryd y mater yma yn difrifol iawn ac yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod hyn yn cael eu datrys cyn gynted ag sy’n bosib.”