Cost of Living Support Icon

 

Sicrhau £9.8m gan Gyngor y Fro ar gyfer seilwaith cymunedol a thai fforddiadwy 

Sicrhaodd Cyngor Bro Morgannwg £9.8m ar ffurf cyfraniadau Adran 106 (A106) gan ddatblygwyr yn 2016/17. 

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Yn y 12 mis rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017, mae 23 caniatâd cynllunio wedi’u cymeradwyo sydd wedi bod yn amodol ar gytundebau A106. 


Ar ôl ei dderbyn, caiff yr arian hwn ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, cyfleusterau addysgol, mannau agored, meysydd chwarae i blant a gwelliannau i gyfleusterau cymunedol yn agos at safleoedd datblygu.


Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau rhwymedigaethau “mewn nwyddau”, y bydd angen i ddatblygwyr eu darparu ar safleoedd, megis gweithredu man agored cyhoeddus, tai fforddiadwy a chelf gyhoeddus. 


Yn ystod yr un cyfnod gwariwyd £1.4m ar gynlluniau A106 ar draws y Fro. Ymhlith y rhain cafwyd Cynllun Troedffordd/Beicio Port Road yn y Barri, gwelliannau i faes chwarae Plassey Square ym Mhenarth, meithrinfa yn Ysgol Gynradd Gwenfô a phrynu offer ar gyfer Canolfan Gymunedol Murchfield yn Ninas Powys a Neuadd Gymunedol Heol Llidiard yn Llangan. 


Ar yr un adeg, adeiladwyd 217 o dai fforddiadwy newydd gan ddatblygwyr o ganlyniad i gytundebau A106 ar gyfer trigolion na fyddent fel arall wedi gallu fforddio tai ar y farchnad agored. 

 

 


 

Plassey Square play area


“Cytunir ar gytundebau Adran 106 er mwyn mynd i’r afael ag effaith datblygiadau tai ac mewn llawer o achosion i helpu i wella’r cynlluniau eu hunain. 


“Mewn blynyddoedd diweddar mae’r Fro wedi datblygu dull effeithiol iawn o fwyhau’r cyfraniadau y mae eu hangen gan ddatblygwyr a chronni’r arian hwn i ariannu cynlluniau sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. 

 


“Dim ond y mis diwethaf y cyhoeddwyd y caiff neuadd bentref newydd ei hadeiladu yn Aber Ogwr diolch i £287,000 o gyllid A106. Dyma ddull sy’n gweithio a byddwn yn parhau i’w ddefnyddio i wella a datblygu cyfleusterau ledled y Sir.”

- Cyng. Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio.

 

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd gan y Cyngor £10.9m yn ei gyfrif S106. Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau lleol yn rhan o benderfynu ar sut y caiff cyfraniadau Adran 106 eu defnyddio, yn enwedig pan gaiff cyfraniadau eu derbyn ar gyfer mannau agored cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol.


Mae ymgynghoriadau cyhoeddus ar wario A106 wedi’u cynnal yn ddiweddar ym Mhenarth, Fferm Goch, Gwenfô ac Ystradowen a bydd un yn dechrau’n fuan yn y Rhws i benderfynu ar y ffordd orau o wario cyfraniadau gwerth £86,876 sydd bellach ar gael a £343,009 pellach a ddisgwylir yn 2019.

 

Gall y cyfraniadau hyn gael eu defnyddio’n benodol i gynnig neu wella cyfleusterau neu wasanaethau yn y pentref, sy’n bodloni anghenion y gymuned leol ac sydd ar gael i’r cyhoedd. 
Rhyddheir mwy o wybodaeth am ymgynghoriad A106 Y Rhws cyn bod hir.