Cost of Living Support Icon

 

A allech chi fod yn Hyfforddwr Chwaraeon y dyfodol? 

 

Mae rhaglen waddol Olympaidd tîm Datblygu Chwaraeon Bro Morgannwg yn chwilio am hyfforddwr y dyfodol i helpu i ‘ysbrydoli cenhedlaeth’. 

 

  • Dydd Mawrth, 26 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



 

Hockey-match-Cropped-300x197Nod Hyfforddwyr y Dyfodol yw rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu diddordebau mewn arwain a hyfforddi yn y byd chwaraeon, ac mae’n cynnig rhaglen strwythuredig o gyfleoedd i dderbyn eich hyfforddi law yn llaw a chyfleoedd i roi hyfforddiant.  


Dewiswyd cyn ddisgybl o ysgol Stanwell, Rachel Short, fel Hyfforddwr y Dyfodol yn 2015/2016.

 

Yn sgil cymryd rhan yn y project cyrhaeddodd Lefel 2 fel Arweinydd Chwaraeon Cymunedol yn ogystal â chymhwyster cymorth cyntaf a diogelu plant.   

 

Yn ystod y cyfnod hwn aeth Rachel hefyd i’r afael â chwrs lefel 1 chwaraeon penodol mewn gymnasteg ac roedd yn gwirfoddoli mewn clwb gymnasteg cymunedol lleol ac yn cynorthwyo gyda’r clwb gymnasteg ar ôl ysgol. 

 

Mae bellach wedi cwblhau ei gwobr hyfforddi gymnasteg lefel 2 ac mae hefyd yn hyfforddwr chwaraeon dros dro gyda’r tîm datblygu chwaraeon a chwarae. 

Gall pobl rhwng 17-24 oed wneud cais a disgwylir i gyfranogwyr fynd drwy broses ymgeisio i sicrhau bod y rhaglen yn iawn ar eu cyfer hwy.

 

Yn gyfnewid, gallan nhw ennill cymhwyster perthnasol i’w dyfodol yn y byd hyfforddi gan gynnwys Lefel 2 mewn arwain chwaraeon cymunedol, cymhwyster Corff Llywodraethu Cenedlaethol mewn camp o’u dewis, cwrs diogelu, cwrs cymorth cyntaf a hyfforddiant cynhwysiant anabledd.  

 

Bydd nosweithiau gwybodaeth yn cael eu cynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, y Barri ar Ddydd Mawrth 26 Medi a Dydd Mercher 27 medi yn Swyddfeydd Neuadd y Dref Llanilltud Fawr, yn yr Ystafell Dreftadaeth, rhwng 5.30 a 7.30pm.

 

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Rachel Shepherd, Datblygu Chwaraeon a Chwarae yng Nghyngor Bro Morgannwg ar 01446 704808.  

 

 

Hyfforddwyr y Dyfodol