Cost of Living Support Icon

 

Drysau Agored gyda Cadw

Mae Drysau Agored Cadw 2017 yn dod â sinema am ddim i'r Memo

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg


Cadw Open Doors Logo

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad Drysau Agored cenedlaethol eleni, a fydd yn digwydd drwy gydol mis Medi fel rhan o’r Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.

 

Mae Drysau Agored, a drefnir gan Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn ddathliad o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru, ac mae'n cynnig y cyfle i archwilio trysorau cudd treftadaeth a hanes Cymru.

“Rwyf wrth fy modd y bydd y Memo yn rhan o Drysau Agored. Mae hwn yn gyfle arbennig iawn i weld rhan o dreftadaeth gudd Cymru, ac rydym yn annog y gymuned leol, yn ogystal ag ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd gymryd mantais o'r cyfle hwn."  - Kate Long, Canolfan Gelfyddydau’r Memo

Bydd Canolfan Gelfyddydau'r Memo ar agor i’r cyhoedd ddydd Mawrth 26 Medi, a bydd yn cynnwys cyfle i ymweld â’r Gofadail a’r Neuadd Atgofion, gyda byrddau hanes a gwybodaeth ar gael i’ch tywys trwy eich ymweliad. Bydd y digwyddiad wedyn yn ymweld â sinemâu arbennig.

 

war horse

Fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol Drysau Agored Cadw, bydd y Memo’n sgrinio’r ffilmiau canlynol ddydd Mawrth 26 Medi:

  • War Horse  (12A) – 10.00am
  • All Quiet on the Western Front (PG) – 1.30pm and 7.00pm

 

Mae digwyddiad Drysau Agored y Memo yn hollol hygyrch ac yn agored i bawb. Ni fydd unrhyw gostau mynediad ar gyfer y ffilmiau; mae 400 o docynnau ar gael ar gyfer pob ffilm, ac anogir grwpiau ysgol ac aelodau’r cyhoedd i ‘archebu’ tocynnau o flaen llaw.

 

Book Tickets Online

 

 

 

Digwyddiadau Drysau Agored eraill:

Mae nifer o ddigwyddiadau drws agored sy'n perthyn i Fro Morgannwg yn digwydd ym mis Medi.

 

Glamorgan Archives logo

Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae'n casglu ac yn cadw dogfennau cyhoeddus o'r ardal yn dyddio o'r 12fed ganrif hyd heddiw ac yn sicrhau eu bod ar gael. 

 

Archifau Morgannwg

 

Dyffryn-Gardens

Gerddi Dyffryn

Mae Gerddi Dyffryn, sy’n werddon dawel yn union y tu allan i Gaerdydd,  yn enghraifft eithriadol o ddylunio Edwardaidd. Mae'r eiddo hwn sy’n ymestyn dros fwy na 55 o erwau, yn gartref i gasgliad trawiadol o ystafelloedd gardd cartrefol, gardd goed eang yn cynnwys coed o bob cwr o'r byd a thŷ gwydr trofannol. 

 

Gerddi Dyffryn

 

Energy Icon

Clive Place, Penarth - SuperHome

Darperir gwres gan bwmp gwres o ffynhonnell aer, a stof llosgi coed yn ystod cyfnodau oer. A’r holl drydan i’r tŷ naill ai’n cael ei gynhyrchu gan y solar ffotofoltaig neu’n cael ei fewngludo ar dariff trydan 100% adnewyddadwy, mae’n lefel isel iawn o garbon. Mae’r perchnogion wedi adnewyddu ac ymestyn eu heiddo o 1948 i sicrhau 81% o arbediad carbon, biliau is a bod yn fwy cyfforddus yn y tymor hir. 

 

Clive Place

 

Cardiff-Bay

Argae Bae Caerdydd

Mae Argae Bae Caerdydd yn 1.1km o hyd ac yn ymestyn o ddociau Caerdydd yn y gogledd i Benarth yn y de.  Y prosiect adeiladu peirianneg sifil mawr hwn a arweiniodd ar greu'r Bae, sydd â dros 13k o lannau.  Roedd y prosiect gwerth £220m hwn yn gatalydd i waith adfywio gwerth £2 biliwn yn hen ardaloedd y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth.

 

Argae Bae Caerdydd