Cost of Living Support Icon

 

Allech chi ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol 2017 Maer Bro Morgannwg? 

Gwahoddir plant ledled Bro Morgannwg i ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol 2017 yr Arglwydd Faeres, Y Cynghorydd Janice Charles. 

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r Maer yn anfon dros 500 o gardiau bob blwyddyn at Arweinyddion Dinesig ledled Cymru ac Ewrop, yn ogystal â gweddill y sir.

 

Mae 5 o gategorïau ac fe gaiff enillydd ei ddewis o blith pob un. Gwahoddir pob buddugwr, ynghyd â’u teuluoedd a’u hathrawon i Barlwr y Maer i dderbyn delwedd wedi ei fframio o’u cynnig.

 

Caiff yr enillydd cyffredinol ei gyhoeddi fel dylunydd swyddogol Cerdyn Nadolig y Maer 2017 ac fe gaiff y dyluniad ei argraffu’n broffesiynol.

 

Baubles

Mae pum categori yn y gystadleuaeth, sef:

  1. Dosbarth meithrin a derbynfa
  2. Blwyddyn 1-3
  3. Blwyddyn 4 – 6              
  4. Blwyddyn 7 – 9     
  5. Blwyddyn 10 - 12 

 

Gall eich cynnig fod mor greadigol ag y mynnoch, o ffotograff, darlun, cartŵn, neu lun.

 

Croesewir cysylltiad ag Elusennau’r Maer, Soroptomistiaid y Barri a'r Cyffiniau, Baby Basics, a Woodys Lodge and Christmas.

 

Caiff y ddelwedd ei defnyddio ar gerdyn – tirweddol (10 x 15cm), portread (15 x 10cm) neu sgwâr (hyd at 14cm sgwâr).

Anfonwch eich  dyluniad drwy e-bost at TMayor@valeofglamorgan.gov.uk  fel dogfen PDF, Tiff, EPS – mae gofyn iddo fod yn 300dpi.

 

Gallwch hefyd anfon eich dyluniad drwy’r post i: Cystadleuaeth cerdyn Nadolig, Swyddfa’r Maer, Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, y Barri CF63 4RW.

 

Y dyddiad cau yw 5pm ar Ddydd Llun 9 Hydref, a rhaid cynnwys eich enw a chyfeiriad eich ysgol gyda’ch cais. 

 

 

Rheolau’r Gystadleuaeth

 

  1. Derbynnir cynigion ar y gystadleuaeth drwy e-bost neu drwy’r post.
  2. Y wobr i un enillydd fydd argraffiad wedi ei fframio o’r cerdyn. Does dim dewis i gael arian yn ei le. Cyfyngir y gystadleuaeth i un cynnig i bob cystadleuydd.
  3. Caiff cynigion awtomataidd, cynigion swmp neu gynigion trydydd parti eu diarddel.
  4. Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ac oedolion ifanc sy’n byw ym Mro Morgannwg yn unig. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig eu rhieni neu ofalwr i gadarnhau eu bod yn derbyn y wobr a chytundeb i gyhoeddusrwydd wedi’r gystadleuaeth.
  5. Caiff yr enillydd(wyr) eu dewis gan dîm beirniadu’r Maer.
  6. Cysylltir â’r enillydd drwy e-bost neu drwy’r post. Caiff enw’r buddugwr ei arddangos ar ein gwefan ac ar y cardiau pan gânt eu hargraffu. 
  7. Mae penderfyniad y Beirniad yn derfynol ac ni fydd gohebiaeth bellach.
  8. Bydd y gystadleuaeth ar agor tan 5.00pm ar 09 Hydref 2017.
  9. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Ein polisi yw na fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti. Hyrwyddwr: Julie Brown, Swyddfa’r Maer, Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, y Barri 63 4RW  

 

  

Drwy gyflwyno eich cynnig i Swyddfa’r Maer rydych yn cytuno i Faeres Bro Morgannwg ddefnyddio’r llun yn ei Cherdyn Nadolig Swyddogol  2017.

Ein penderfyniad ni fydd defnyddio unrhyw waith celf ac efallai y byddwn yn dewis mwy nag un cynnig.