Cost of Living Support Icon

 

Cynllun Adfywio Tai gwerth £750,000 i ddechrau ym Mhenarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cyllid gwerth £750,000 ar gyfer cynllun adfywio tai, a bydd grantiau am ddim ar gael i feddianwyr tai’n hwyrach yn y flwyddyn. 

 

  • Dydd Llun, 18 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Trigolion sy’n byw ym mhen isaf Windsor Road ym Mhenarth fydd y cyntaf i elwa ar y cynllun, lle y bydd wynebau blaen y tai yn cael eu gweddnewid. 

 

Yn rhan o’r cynlluniau, bydd y Cyngor yn cyflogi contractwyr ac yn talu’r gost lawn am ffenestri a drysau newydd, ac am waith i lanhau gwaith maen a briciau, i adfer, ail-lenwi, ac ail-baentio wynebau allanol tai, i adnewyddu cwteri, ffasgiâu, soffitiau ac ymylon bondo lle y mae angen gwneud hynny, ac i atgyweirio waliau terfyn. 


Mae’r dull hwn o adfywio tai, yn dilyn project Ardal Adnewyddu Castleland y Cyngor yn y Barri lle y cafwyd canmoliaeth gan drigolion a masnachwyr lleol. 

 

 

Main Street before 003
Main Street after 003

 

“Yn ogystal â bod yn ardal breswylio boblogaidd, Windsor Road yw’r porth i Benarth i lawer o ymwelwyr. Mae’r cam cyntaf o’r cynllun adnewyddu diweddaraf wedi cael ei gynllunio’n strategol er mwyn iddo ddigwydd ar yr un pryd â gwaith gwella ffyrdd, palmentydd a mannau gwyrdd yn y cyffiniau. 
“Gyda’r rhain, bydd y cynllun adnewyddu tai’n effeithio’n syfrdanol ar drigolion lleol a hefyd ar argraff gyntaf llawer o ymwelwyr â Phenarth. Rydyn ni’n credu y bydd hynny’n gwella bywyd i drigolion lleol ac y bydd hefyd yn hybu economi lewyrchus Penarth.” - Cyng. Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio 

Mae cyfanswm o £750,000 wedi cael ei glustnodi ar gyfer y tair blynedd: £150,000 yn 2017/18, £300,000 yn 2018/19, a £300,000 yn 2019/20.


Bydd y cynllun yn y lle cyntaf yn cynnwys gweddnewid eiddo 100-160, 164-172, 155 a 157-163 ar Windsor Road. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, bydd gwaith tebyg yn cael ei ystyried mewn ardaloedd eraill. Bydd yr economi leol ehangach yn ffactor bwysig o ran dewis y lleoliad iawn, yn yr un modd.