Cost of Living Support Icon

 

Digwyddiad partneriaeth yn cynnig help a chyngor ar godi safonau iechyd a diogelwch

 

Cynhaliodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRHR) ddigwyddiad ‘Ymgysylltu â Busnesau’ yn ddiweddar ar gyfer busnesau sy’n gweithredu ar Ystadau Diwydiannol Pen-y-Bont ar Ogwr i helpu i godi safonau iechyd a diogelwch.

 

 

  • Dydd Gwener, 29 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



 

Yn unol â Strategaeth ‘Helpu Prydain Fawr i Weithio’n Dda’ yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID), bu i’r GRHR mewn partneriaeth â’r AGID, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a busnesau lleol hwyluso’r digwyddiad hwn i roi cyngor syml, hygyrch a pherthnasol i fusnesau lleol. 

 

Diben y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Heronston Hotel ym Mhen-y-bont-ar-Ogwr, oedd galluogi busnesau i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch dull cymesur a chost-effeithiol o reoli risgiau. 

 

Mae hyn yn gwneud synnwyr busnes da ac yn annog perchenogaeth well ar iechyd a diogelwch gan gyflogeion a pherchenogion busnes. 

 

 The SRS team

"Mae rheoli iechyd a llesiant gweithwyr yn gwella perfformiad sefydliadol, ac yn lleihau cost salwch ac absenoldeb, a gostiodd £500 miliwn i economi Cymru’r llynedd.  Mae ‘Project Ymgysylltu Cyflogeion Pen-y-Bont ar Ogwr’ yn gydweithrediad lleol i gefnogi busnesau lleol i reoli'n effeithiol weithle diogel, iach a mwy ffyniannus yn unol â strategaeth yr AGID, ‘Helpu Prydain Fawr i Weithio’n Dda.

 

“Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar gefnogi a galluogi busnesau i reoli risgiau iechyd, diogelwch a llesiant yn fwy effeithiol drwy gyfres o gyflwyniadau, gweithdai bychain ac ystod o stondinau lle cafodd pobl gyfle i drafod materion yn uniongyrchol â swyddogion mewn sefyllfa anffurfiol. Cafodd bawb a fynychodd fudd mawr o’r digwyddiad ac roedd yn deyrnged i holl waith caled staff y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.”

  -  Cyng Dhanisha Patel, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

 

Mae gwasanaeth rheoliadol rhanbarthol sy’n gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg wedi’i sefydlu i redeg gwasanaethau gan gynnwys safonau masnach, iechyd yr amgylchedd a thrwyddedu. 

 

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth trwy ffonio 0300 1236696 neu drwy e-bostio

businessadvice srswales@valeofglamorgan.gov.uk.