Cost of Living Support Icon

 

Bwyd a hwyl i blant yn y Barri dros yr haf

 

Roedd rhaglen oedd yn cynnig prydau bwyd o safon, ynghyd â sesiynau maeth a gweithgareddau corfforol i blant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig dros wyliau’r haf yn llwyddiant ysgubol yn Y Barri, ar ôl iddi gael ei hymestyn i ddwy ysgol dros yr haf. 

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Medi 2017

    Barri



Cynhaliwyd y Project Cyfoethogi Gwyliau'r Haf Bwyd a Hwyl (SHEP) yn Ysgol Gynradd Tregatwg rhwng 31 Gorffennaf a 17 Awst ac yn Ysgol Dewi Sant rhwng 24 Gorffennaf a 10 Awst.

 

Roedd y project yn cynnwys cydweithio rhwng sawl adran Cyngor Bro Morgannwg, megis y gwasanaeth arlwyo, timau datblygu chwaraeon a chwarae, y gwasanaeth ieuenctid a Chymunedau'n Gyntaf i roi mynediad i blant at fwydydd iachus a gweithgareddau corfforol dros wyliau'r haf.

 

Gwnaeth oddeutu 80 o ddisgyblion a 50 o rieni fynychu'r sesiynau. 

 

 

Mayor with school pupils

 

"Yn ystod gwyliau’r haf pan nad yw brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd a phrydau ysgol am ddim ar gael, mae rhai teuluoedd yn cael trafferth wrth geisio fforddio neu gael mynediad at fwydydd sy’n cyfrannu at ddiet iach.

Mae rhai plant hefyd yn colli'r elfen gymdeithasol gyda phlant eraill yr un oed â nhw, a’r gweithgareddau sy’n sicrhau bod eu cyrff a’u meddyliau’n actif ac yn dal i ddysgu.

 

“Mae’r rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ yn cau’r bwlch hwn. Mae’n rhan o raglen ehangach sy’n cyflawni pethau da iawn ledled Cymru, ac mae’r adborth yr ydym wedi’i dderbyn gan y rheiny a gymerodd ran yn y Barri wedi bod yn bositif iawn.

 

“Ar ôl bod yn rhan o'r peilot cychwynnol y llynedd, a’r haf hwn wrth geisio tyfu'r cynllun ledled Cymru, rydym yn gobeithio y gallwn wneud hwn yn llwyddiant blynyddol ledled y Fro." 

 

- Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Cynrychiolydd Addysg CLlLC: “Mae ysgolion yn creu amgylchedd cyfarwydd a diogel i blant sy’n mynychu clybiau ‘Bwyd a Hwyl’, sydd wedi'i sefydlu a’i gynnal gan staff ysgol a phartneriaid presennol dros wyliau'r haf.

Mayor with pupils

 

“Mae’r cynllun wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o asiantau sy'n cynnal gweithgareddau cyfoethogi sydd nid yn unig yn lleihau'r tebygolrwydd o golli dysgu, ond hefyd yn ennyn diddordeb mewn chwaraeon

 newydd, hobïau a chreu cyfeillgarwch newydd.

 

“Ledled Cymru, rydym yn gweld plant yn mwynhau gweithgareddau hwyl a chyffrous, tra bod rhieni’n adrodd am blant hapusach sy’n edrych ymlaen at eu diwrnod clwb ‘Bwyd a Hwyl' nesaf, sydd hefy

d yn lleddfu’r pwysau ariannol a deimlir dros wyliau’r haf.”

 

I ddarganfod mwy am y rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’, ewch i http://wlga.wales/food-and-fun