Cost of Living Support Icon

 

Cadeirydd blaenorol Iechyd Cyhoeddus Cymru i siarad yng Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Fforwm Strategaeth 50+ y Fro  

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ddod i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yn ddiweddarach y mis hwn.

 

  • Dydd Llun, 18 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Bwriad Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yw gweithio er dyfodol gwell ar gyfer pobl 50+ oed ledled y Fro, trwy sicrhau y gallant leisio eu barn. 

 

Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn yr Ystafell Gorfforaethol, Heol Holltwn, Y Barri, ddydd Iau 21 Medi. Bydd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles yn agor y cyfarfod a bydd Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden Bro Morgannwg, y Cyng. Gordon Kemp hefyd yn bresennol fel yr Hyrwyddwr i Bobl Hŷn. 

 

Bydd yr Athro Sir Mansel Aylward CB, Cadeirydd y Comisiwn Bevan a Chadeirydd blaenorol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno sgwrs ar 'Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru’. 

 

Bydd y digwyddiad yn digwydd rhwng 9.30am a 12pm, gyda mynediad am ddim a lluniaeth. Am fy o wybodaeth, gallwch ffonio John Porter ar 01446 709779 neu e-bost jporter@Vakeofglamorgan.gov.uk.