Cost of Living Support Icon

 

Reidiau beic am ddim i fenywod ledled Y Fro 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi ymgyrch sy’n cynnig reidiau beic am ddim i ferched er mwyn mynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng y nifer o ddynion a menywod sy’n seiclo. 

 

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Mae rhaglen Breeze HSBC y DU yn cynnig reidiau beic hwyliog a lleol am ddim i fenywod ymhob rhan o’r Cyngor bob wythnos.

 

Mae nifer y menywod sy’n seiclo wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, a diolch i ddwy ‘Bencampwraig Breeze’, Sara Novo a Hilary May, cyflwynwyd y reidiau i'r Fro y llynedd. 

 

“Newydd symud i Gymru oeddwn i, ac roeddwn i am weithio fel gwrifoddolwraig. Clywais i am broject Breeze HSBC y DU drwy wefan Gwirfoddoli Cymru, ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n ffordd wych o gwrdd â phobl a gwella fy Saesneg. Mae Breeze yn annog menywod i wneud gweithgareddau chwaraeon awyr agored heb orfod cystadlu." –  

Pencampwraig Breeze, Sara Novo, yn wreiddiol o Sbaen ac sydd wrth eu bodd yn seiclo yn y Barri a Phenarth. 

 

 

Free bike rides are on offer to women across the Vale

 

Mae’r reidiau yn amrywio o ran eu cyflymder a’r tirwedd a bydd Pencapmwyr Breeze yn sicrhau bod rhywbeth addas i bawb.

 

Mae’r ddwy am sefydlu sesiynau hyfforddi rheolaidd ar gyfer menywod yn y Fro. 

 

 

“Mae seiclo menywod wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae tipyn o waith i’w wneud o hyd i gael yr un nifer o fenywod ag o ddynion yn seiclo.

 

"Diolch i wirfoddolwyr fel Sara a Hilary, a’r gefnogaeth a roddwyd iddynt gan yr Awdurdod Lleol a Rhaglen Breeze HSBC y DU, mae’r bwlch yn cau drwy’r amser”

Emma White, Swyddog Cyfranogiad Menywod Seiclo Cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gweithgareddau seiclo ym Mro Morgannwg, e-bostiwch  Rachel Shpeherd, neu i ddod o hyd i reid beiciau Breeze HSBC y DU yn eich ardal leol chi, ewch i www.letsride.co.uk/breeze