Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn galw ar grwpiau cymunedol ledled Bro Morgannwg 

Anogir grwpiau cymunedol yn Gibbonsdown sydd â diddordeb mewn iechyd a diogelwch i ddweud eu dweud

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r tîm GGM, a leolir yn Skomer Road, yn gofyn i gynrychiolwyr o’r grwpiau cymunedol hyn drafod sut i wella iechyd a llesiant yr ardal, a fydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt i gyfnewid gwybodaeth am wasanaethau leol.

 

Mae GGM yn elusen annibynnol ac mae llawer o wirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol yn gweithio ar ei ran ledled y sir.  Ei fwriad yw gwella ansawdd bywyd pobl a chymunedau trwy gefnogi gwirfoddolwyr, cyfleoedd gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol. 

 

Croesawodd y tîm bum aelod newydd yn ddiweddar.  Yn ein Cyfarfod Bwrdd yn ystod yr haf, cytunwyd y bydd Clwb Tenis Athletig y Barri, Mulligan Community CIC, Oshi’s World, Promo-Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn dod yn aelodau. 

“Rydym yn falch o weld bod ein haelodaeth yn mynd o nerth i nerth.  Bydd yr aelodau newydd hyn yn gallu manteisio ar ystod o wasanaethau rydym yn eu cynnig i aelodau gan gynnwys gwybodaeth ar gyllid, gwasanaethau datblygu a mynediad at ystod o wasanaethau ymarferol.” - Clive Curtis, Rheolwr Gweithredol GGM. 

Os hoffech chi ddod i’r cyfarfod rhwydwaith, gallwch e-bostio’r Arloeswr Cymunedol Lani Tucker (lani@gvs.wales) neu ffoniwch 01446 741706. Da gan fyddwch fwy ar www.gvs.wales.