Cost of Living Support Icon

 

Bagiau newydd ar gyfer Gwastraff yr Ardd oherwydd galw gan gwsmeriaid 

Ar ôl derbyn adborth gan drigolion rydym wedi cyflwyno bagiau newydd ar gyfer gwastraff yr ardd – mae’r bagiau’n debyg o ran dyluniad i’n bagiau ailgylchu glas.

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Garden Waste BagMae pwysau o 500g yn y  gwaelod a chlawr i helpu i atal y bagiau a’u cynnwys rhag chwythu i ffwrdd ac i'w hamddiffyn o'r tywydd.

 

Gellir prynu’r bagiau, sy’n £2 yn unig o hyd, o'r 

  • Swyddfeydd Dinesig
  • Swyddfeydd y Dociau
  • Depo'r Alpau 
  • Rhan fwyaf o lyfrgelloedd

Mae ein gwasanaeth gwastraff yr ardd yn rhedeg bob pythefnos hyd at ddiwedd mis Tachwedd pan fydd yn troi yn ôl yn wasanaeth ffonio a gwneud cais dros fisoedd y gaeaf.


Gwastraff Gardd