Cost of Living Support Icon

 

Tair blynedd o'r bron i Gyngor Penigamp Bro Morgannwg 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi’i enwi fel yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol.

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Mae bwletin perfformiad llywodraeth leol 2016/17, a grëwyd gan Uned Ddata Cymru, yn asesu perfformiad cynghorau mewn 25 o feysydd blaenoriaeth uchel.

 

Mae’r rhain yn cynnwys ystod eang o wasanaethau pwysig megis addysg, tai, trafnidiaeth a phriffyrdd, gwasanaethau rheoliadol a chynllunio a gwasanaethau hamdden. Mae’r sgoriau hefyd yn adlewyrchu safon llywodraethiant a iechyd corfforaethol y cyngor. 

 

Mae Uned Data Cymru'n rhoi pob cyngor yng Nghymru mewn pedwar grŵp yn seiliedig ar eu perfformiad ar gyfer pob un o'r 25 maes sydd dan sylw. Roedd Cyngor Bro Morgannwg yn y grŵp o gynghorau gorau ar gyfer bron hanner o'r rhain ac roedd wedi perfformio'n well na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer 68% o'r holl fesurau.

 

Er iddo gyrraedd y brig o ran perfformiad yn 2016, roedd lle i’r Cyngor wella o hyd mewn bron i hanner (44%) o'r meysydd a gafodd eu craffu.

Civic Offices-007

“Mae cael dyfarniad fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yn llwyddiant ysgubol. "Mae’r llwyddiant hwn yn brawf digamsyniol fod y bobl orau yn eu meysydd yn gweithio i’r sefydliad hwn. Daw perfformiad uchel parhaus y cyngor yn sgil ei ymdrech i gynnig y gwasanaethau gorau posibl i bobl Bro Morgannwg.  Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo...  Mae’n amlwg bod rhai meysydd sydd angen eu gwella ymhellach, a bydd hyn yn flaenoriaeth dros y misoedd i ddod”. 

 

Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr 

Yn fwyaf nodedig perfformiodd Cyngor Bro Morgannwg yn berffaith mewn tri maes allweddol.   O’r rhain, cafodd yr awdurdod y sgôr perfformiad gorau yng Nghymru ar gyfer dau: dim plant sy'n derbyn gofal yn gadael addysg hanfodol, hyfforddiant neu ddysgu'n seiliedig ar gyflogaeth heb gymhwyster allanol cymeradwy; ac fe gafodd 100% o ddatganiadau anghenion addysgol arbennig eu cyflwyno o fewn 26 wythnos. Perfformiodd yn berffaith hefyd ar gyfer mesur arall ar ei ddarpariaeth AAA hefyd. 

“Yn y misoedd diweddar rwyf wedi gwneud fy mwriad yn amlwg, sef sicrhau bod y cyngor hwn yn arwain o’r blaen wrth daclo’r prif faterion sy'n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru a sicrhau bod pobl y Fro yn elwa ar yr ymdrechion hynny. Ar ôl dod i’r brig am dair blynedd bellach, rwy'n hollol sicr y byddwn yn gallu gwneud hyn.” 

 

Cyng John Thomas, Arweinydd y Cyngor

Daw’r llwyddiant diweddaraf hwn i Gyngor Bro Morgannwg yn yr un flwyddyn ag y gwelodd yr awdurdod yn cipio nifer o wobrau gan gynnwys Tîm y Flwyddyn yng Ngwobrau Chronicle Llywodraeth Leol y DU. Yn ogystal, eleni cafodd y sefydliad ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Awdurdod Lleol y Flwyddyn DU yng Ngwobrau Cyflawni'r Cyfnodolyn Municipal (MJ).