Cost of Living Support Icon

 

Fforwm strategaeth 50+ Y Fro yn estyn croeso cynnes i bawb wrth iddynt ddathlu diwrnod rhyngwladol pobl hŷn

 

Gwahoddir teuluoedd o bob oedran i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri. 

 

 

  • Dydd Iau, 28 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg

    Barri



O 10y.b tan 3y.p ar ddydd Llun 2 Hydref, bydd cyfle i bobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys Saethu â Gwn Laser, Boccia a Mini Golff.

 

Bwriad Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yw gweithio i sicrhau dyfodol gwell i bobl 50+ oed ledled y Fro, trwy roi cyfle iddynt leisio eu barn. 

 

Bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, y rhoi anerchiad yn y digwyddiad a bydd y Gweinidog Jane Hutt AC hefyd yn bresennol.

 

Caiff pobl hefyd gymryd rhan mewn ymarferion hyfforddiant effaith isel megis Tai Chi,  dawnsio gyda Motion Control Dance, yn ogystal â gweithdai ysgrifennu barddoniaeth, celf a chrefft a gwneud tlysau. 

 

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar y dydd a bydd nifer o feiciau hygyrch ar gael ar gyfer y rheiny sydd angen defnyddio offer arbenigol.   

 


Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y poster

 

 

Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn