Cost of Living Support Icon

 

Artistiaid y Fro yn dathlu ugain mlynedd gydag arddangosfa wedi’i chyflwyno i aelodau o’r gorffennol a’r presennol  

 

Mae Artistiaid Bro Morgannwg (VOGA) yn dathlu dau ddegawd ers iddo gael ei lansio gydag arddangosfa yn Art Central Y Barri. 

 

  • Dydd Mawrth, 26 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Wedi’i gefnogi gan Gyngor Bro Morgannwg, mae’r grŵp o 20 o artistiaid proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yn y Fro, wedi cynnal arddangosfeydd, gweithdai celf ac ati ledled Cymru a thu hwnt.  

 

Maent hefyd wedi teithio gyda’u gwaith i bartneriaethau gefeillio Cyngor Bro Morgannwg yn dangos gwaith yn ngefeilldrefi’r sir, sef Rheinfelden yn yr Almaen a Fecamp yn Ffrainc. 

 

 

Mae’r arddangosfa penblwydd hefyd yn dathlu artistiaid sy’n aelodau o’r gorffennol a gydol oes o’r grŵp.   

“Rydym wedi cefnogi VOGA dros y blynyddoedd ac mae’n bleser gweld amrywiaeth o waith gwych gan artistiaid lleol a fydd, rwy’n siŵr, yn apelio at bawb sy’n ymweld â’r oriel.  Mae’r Cyngor yn falch o’r oriel hon sydd wedi bod yn ffocws canolog ar gyfer y celfyddydau gweledol am y degawd diwethaf.”  

 -

Maer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles.

 

 

Siaradodd yr Athro barddoninaeth Tony Curtis am lwyddiannau’r artistiaid dros y blynyddoedd a’r cyfleoedd a gafodd yr artistiaid trwy eu hymgysylltiad cymunedol a’u harddangosfa yn Oriel Art Central ac Oriel Travellers. 

 

Mae VOGA hefyd yn hyrwyddo gwaith cymunedol, ac mae eu cefnogaeth wedi lansio’r Travellers Gallery yn y Mind Cafe ar orsaf Y Barri.  

 

Mae aelodau unigol hefyd wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac wedi ennill cystadlaethau celf cenedlaethol. 

 

Cynhelir yr arddangosfa yn Art Central tan ddydd Sadwrn 21 Hydref.  Am ragor o wybodaeth ar y lleoliad ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral