Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cwblhau sarn ffordd yr harbwr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau Cynllun Sarn Ffordd yr Harbwr wedi’r cam terfynol, sef gwaith adnewyddu ar y maes parcio, gwerth £250,000.

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Medi 2017

    Barri



Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau Cynllun Sarn Ffordd yr Harbwr wedi’r cam terfynol, sef gwaith adnewyddu ar y maes parcio, gwerth £250,000.

 

Roedd y project, a ddyluniwyd i wella mynediad at yr ynys ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn cynnwys gwaith eang dros gyfnod o bedair blynedd, yn gyntaf fel rhan o Raglen Adfywio’r Barri.

 

 

 

Yn gyntaf, gwnaed gwaith i wella mynediad at Drwyn y Brodyr ac yna gwariodd y Cyngor tua £1 miliwn ar wella llif y traffig at yr ynys trwy uwchraddio cynllun y ffordd ger cyffordd y Ship Inn.

 

 

Mae gwaith arall yn cynnwys lledu’r droedffordd, gosod rheiliau, gwella’r goleuadau a’r seddau a'r amddiffynfeydd llifogydd.

 

 

Mae’r llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr yn cysylltu Hen Ffordd yr Harbwr â gweddill rhwydwaith glan môr y Barri ac mae eisoes yn boblogaidd ymhlith cerddwyr, beicwyr a rhedwyr.

 

 

Mae’n rhan o gyfnod parhaus o waith gwella yn Ynys y Barri, sydd wedi cynnwys gwaith gwella sylweddol i'r Promenâd a’r Gerddi.

 

 

Bydd y gwaith datblygu yn parhau gyda’r gwaith nesaf ym mloc toiledau Trwyn Nel.

 

 

 

“Mae’n wych gweld y project hirdymor hwn yn dod i derfyn wedi rhaglen faith o waith sydd wedi gwella mynediad at yr ynys yn sylweddol.”

 

“Rydym yn gobeithio y bydd pobl o’r Fro ac ymwelwyr yn dod i fwynhau'r llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr. Gall hynny yn ei dro helpu i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, sy’n rhywbeth rydyn ni’n ymrwymo i’w gynnig i’n trigolion.

 

“Mae Ynys y Barri wedi ei thrawsnewid yn ddiweddar ac mae hi bellach yn dal ei thir fel cyrchfan glan môr o’r safon uchaf.” - Cyngr John Thomas,  Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

 

 

Vale of Glamorgan Council Leader John Thomas is joined by Cllr Jonathan Bird, Cllr Geoff Cox and Council officers at the newly-opened Harbour Road Causeway