Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn lansio Clwb Dechrau Busnes

 

Bydd clwb dechrau am ddim ar gyfer unrhyw un sy’n byw ym Mro Morgannwg ac sydd am gychwyn ei fusnes ei hun neu ar gyfer pobl sydd wedi bod yn rhedeg busnes ers llai na thair blynedd.  

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae tîm Datblygu Economaidd y Fro yn cynllunio lansio clwb am ddim ar ôl cynorthwyo bron i 50 busnes i ddechrau masnachu trwy’r Cynllun Bwrsari.

 

Nod y Cyngor yw helpu a chynnwys unrhyw fusnesau newydd neu sy’n rhedeg eisoes ers hyd at dair blynedd. 

 

Mae hefyd yn awyddus i glywed syniadau busnes gwych gan bobl sy’n awyddus i wireddu eu cynlluniau. 

 

Un o’r busnesau newydd a ddechreuodd diolch i gymorth y bwrsari a mentora yw Sadler Jones, cwmni nwyddau papur o safon a sefydlwyd gan Cath Jones, dylunydd penigamp. 

 

 “Ers lansio’n swyddogol ym mis Mehefin eleni yn fy sioe fasnachu gyntaf, rwy’ bellach yn cyflenwi cardiau cyfarch, llyfrau nodiadau, printiadau a phapur lapio i stocwyr annibynnol trwy’r DU.

 

"Rwy’ hefyd wedi llwyddo i ddenu fy stocwr rhyngwladol cyntaf, yn Dubai. Yn y mis diwethaf, rwyf wedi dechrau cyflenwi i ddau fân-werthwr amlwg y stryd fawr, ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn fy myfyriwr cyntaf ar leoliad gwaith ym mis Ionawr. Heb gymorth y Fro a Sefydliad Waterloo, ni fuaswn i wedi gallu dechrau fy musnes fy hun.” 

 - Cath Jones.

 

 

Mae Cyngor y Fro hefyd yn gweithio gyda Busnes Cymru i gynnal sesiynau hyfforddi undydd ar gyfer dechrau busnes.

 

Bydd modd i aelodau’r clwb archebu i weld entrepreneur lleol a mentor profiadol, Annette Gee, a’r tîm am gymorth 1-1. 

“Yn dechrau gyda’r digwyddiad lansio ar 2 Hydref, rydym yn bwriadu cynnal digwyddiadau rhwydweithio bob tri mis a byddwn yn rhannu newyddion ynghylch hyfforddi, ariannu a chyfleoedd eraill i fusnesau newydd." 

Cyng Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio. 

 

 

Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 01446 704636 neu e-bostiwch economic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 Vale Start Up Club invite - Welsh