Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn cwrdd â Penarth Arts and Crafts Ltd

01 Medi 2017

Yn ddiweddar, aeth Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, John Thomas a’r Aelod Cabinet dros Ddysg

Penarth PierMae’r Cyngor yn cydnabod rôl bwysig yr adeilad yn y gymuned, a chefnogodd y gwaith adnewyddu yn 2013.

 

 

Mae PACL wedi cael prydlesu’r Pafiliwn ar raddfa ‘grawn pupur’ a chael £800,000 tuag at gostau adnewyddu – yn ogystal ag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri – ynghyd â grant £100,000 i helpu i gefnogi’r grŵp yn ei flwyddyn gyntaf o fasnachu.

 

Roedd y Cynghorwyr yn awyddus i ddeall y problemau a arweiniodd at gau sinema’r Pier a chwtogi amser agor y Pafiliwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol Pier a Phafiliwn Penarth.  Heb os, mae’n adeilad eiconig y dylid ei ddefnyddio’n effeithiol er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.  Rwy’n ymwybodol o ddiddordeb sylweddol y cyhoedd yn nyfodol y pafiliwn, ac ers ffurfio’r weinyddiaeth newydd dwi wedi chwarae rôl flaenllaw mewn trafodaethau ar ddyfodol y Pafiliwn. 

 

“Fe wnes i a’m cydweithiwr yn y Cabinet, Bob Penrose, gwrdd â chynrych8iolwyr o Penarth Arts and Crafts Ltd yn y Pafiliwn yn ddiweddar i drafod y sefyllfa, a dwi wedi gofyn i’r swyddogion barhau â’r sgwrs dros yr wythnosau nesaf.  Dwi’n hollol argyhoeddedig y dylai lleoliad pwysig ac eiconig fel hwn gael ei ddefnyddio mewn modd cynaliadwy a hirdymor, er budd pawb.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Penrose: “Dwi’n deall bod pobl wir eisiau gweld y Pafiliwn yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial. Am y rheswm hwn fe gwrddes i â chynrychiolwyr o Penarth Arts and Crafts i ddeall y sefyllfa bresennol yn llawn a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

“Dwi am sicrhau pawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr ased diwylliannol hwn mai fy mlaenoriaeth yw gwneud defnydd o’r Pafiliwn mewn modd hirdymor a chynaliadwy y bydd cymuned Penarth a’r Fro ehangach yn falch ohono. I’r perwyl hwn, byddwn yn parhau i drafod, a phan fydd rhagor o wybodaeth ar gael byddaf yn ei rhannu â phawb sydd â diddordeb.”