Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn annog landlordiaid i osgoi erlyniad  

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog landlordiaid ac asiantiaid i sicrhau eu bod wedi eu cofrestru neu eu trwyddedu yn dilyn newid i’r gyfraith.

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Cllr PARKER Andrew 2017Daw’r rhybudd ar ôl i ddwy gollfarn yn ddiweddar arwain at landlordiaid yn cael eu dirwyo miloedd o bunnoedd am beidio â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

 

Gyda phwerau gorfodi’n weithredol nawr, mae’r rheiny sydd dal yn gwrthod cydymffurfio yn cael eu rhybuddio eu bod mewn perygl o gael collfarn os  nad ydynt yn cysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar unwaith ac yn cymryd camau i weithredu’n gyfreithiol.

 

 

Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i landlordiaid fod wedi cofrestru ac mae’n rhaid i landlordiaid sy’n hunan reoli ac asiantiaid gyflawni hyfforddiant er mwyn cael trwydded.


Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru yn cynnig gwasanaeth ‘cofrestr gwirio’ sy’n galluogi tenantiaid a’r cyhoedd i wirio os yw landlordiaid ac asiantiaid yn torri’r gyfraith.   Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 7000 o eiddo ym Mro Morgannwg wedi cwblhau’r broses gofrestru yn llwyddiannus, ond mae cannoedd dal angen cofrestru. 

“Daeth Rhentu Doeth Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n braf gweld Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau bod landlordiaid ac asiantiaid yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau.

 

"Rwy’n falch iawn bob bron i 7000 o landlordiaid wedi cofrestru ledled Bro Morgannwg. Hoffwn atgoffa unrhyw un sydd heb gofrestru eto eu bod yn torri’r gyfraith  a bydden i'n eu hannog i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru i osgoi erlyniad.” - Y Cynghorydd Andrew Parker