Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgell gymunedol a redir gan wirfoddolwyr yn Y Sili yn dathlu eu pen-blwydd cyntaf

Dathlodd llyfrgell gymuned Sili a Larnog eu pen-blwydd cyntaf gydag ymweliad gan westai arbennig.  

  • Dydd Iau, 07 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Cyngor Bro Morgannwg, cynhaliodd aelodau a gwirfoddolwyr sesiwn crefftau ac adrodd storïau ddydd Sadwrn 2 Medi. 


Hefyd cyflwynodd yr awdures Americanaidd Kyra Kramer, sydd bellach yn byw yn y Sili, drosolwg byr o’i llyfrau hanesyddol ar Harri VIII a’r Breninesau a gam-bortreadwyd, yn ogystal â'i chyfrol "Mansfield Parsonage” a gyhoeddwyd i goffau 200 pen-blwydd marwolaeth Jane Austen. 

 

Kyra Kramer with volunteers and library members

Llyfrgell y Sili a Larnog oedd y cyntaf o’r pum llyfrgell a glustnodwyd i’w trosglwyddo i ofal y gymuned gan Gyngor Bro Morgannwg.   


Ers mis Mai 2015, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cydweithio â grwpiau ledled y sir i helpu llyfrgelloedd yn Ninas Powys, y Sili, Gwenfô, Sain Tathan a'r  Rhws osgoi cau eu drysau am byth. 

 


I wirfoddoli yn y llyfrgell, ffoniwch 02920 531267 neu anfonwch e-bost

 


Ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y llyfrgell.