Cost of Living Support Icon

 

GRHR yn cyflwyno rhybudd am gynnydd mewn galwadau cyllid a thollau ei mawrhyddi a threth gyngor ffug 

Mae rhybudd wedi ei roi i bobl Bro Morgannwg wrth i’r Cyngor adrodd am gynnydd mewn galwadau sy’n honni’n gelwyddog eu bod yn dod gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi a’r Dreth Gyngor.

 

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Mae tîm diogelu’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR),  sydd ar waith ym Mhen-y-bont, Caerdydd a Bro Morgannwg, wedi cael gwybod am nifer o achosion o alwadau ffug ledled Pen-y-bont, sy’n honni eu bod yn dod gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. 

 

Y ddau rif yr adroddir sy’n galw pobl yw 0161 354 9940 a 020 3129 8297. Mae neges neu berson yn dweud bod angen ymateb yn brydlon i’r alwad er mwyn osgoi canlyniadau cyfreithiol. Mae’r neges hefyd yn bygwth mynd â phobl i’r llys. 

 

 

Mae’r GRhR hefyd wedi dweud eu bod wedi cael gwybod am alwadau ffug yn ymwneud â'r Dreth Gyngor ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Mewn un achos, cysylltodd cwmni o’r enw Shaw, a oedd yn honni eu bod yn gweithio yn Chichester, â thrigolion yr ardal i ddweud eu bod yn gweithio gyda phobl a oedd â hawl i gael ad-daliad.

 

Scam calls

Dywedodd tîm y GRhR hefyd eu bod wedi cael gwybod am wraig o Gaerdydd a dderbyniodd alwad gan ddyn ar rif anhysbys a oedd yn honni ei fod yn gweithio i Gyngor Caerdydd. 

 

 

 

Dywedwyd wrthi bod ad-daliad o £2,000 yn ddyledus iddi a bod angen iddi ffonio rhif penodol a rhoi ei manylion banc.

 

 

Yn ffodus, ni roes y wraig ei manylion banc. Wedi i Gyngor Caerdydd wirio ei chyfrif, daeth yn glir nad oedd ad-dalid yn ddyledus iddi. 

 

 

 

“Os bydd unrhyw un yn derbyn galwad ynghylch gostyngiad posibl yn eu treth gyngor, dylent gysylltu â’r cyngor neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wirio'r alwad.  

 

“Mae ein Tîm Diogelu yn gweithio i fynd i’r afael â thwyll ffôn a’i atal, yn ogystal â sgamiau drwy’r post a throsedd ar garreg y drws. Nod y galwadau ffug hyn yn peri i bobl ddychwelyd yr alwad neu gael pobl i roi eu manylion banc neu wneud taliad.

 

“Cofiwch: peidiwch â rhoi manylion diogelwch eich cerdyn dros y ffôn. Mae cael gwybod am wahanol fathau o sgamiau yn caniatáu i ni rybuddio pobl am yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned."

 

 - Cyngr Dhanisha Patel, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. 

 

 

Os oes gennych gŵyn ynghylch sgamiau ffôn, rhowch wybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506, ac wedyn bydd Safonau Masnach yn asesu'r mater.