Cost of Living Support Icon

 

Darganfod arteffactau hynafol ar hyd llwybr ffordd newydd

CAFODD arteffactau hynafol eu darganfod gan y cwmni archeolegol arbenigol a benodwyd gan Gyngor Bro Morgannwg i ymgymryd â gwaith fel rhan o adeiladu’r A4226 newydd.

 

  • Dydd Llun, 16 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



Mae cynlluniau i ehangu’r ffordd a adwaenir yn lleol fel Five Mile Lane, sy’n cysylltu’r Barri â’r A48, mewn cynllun gwella £25.8 miliwn.


Dewiswyd Rubicon Heritage i gwblhau'r gwaith archeolegol yn dilyn proses tendro cyhoeddus a chyrhaeddon nhw’r safle ym mis Mawrth 2017. 


Yn ystod y cyfnod cloddio, darganfuwyd ystod eang o eitemau arwyddocaol sy’n dyddio o gynhanes, tua 3500CC, hyd at y cyfnod Rhufeinig, sef y ganrif gyntaf i'r bedwaredd ganrif OC.


Roedd y rhain yn cynnwys:d:

 

  • Mwy na 450 o safleoedd claddu neu amlosgi.

  • Llawer o grochenwaith cynhanesyddol a Rhufeinig.

  • Offer callestr cynhanesyddol gan gynnwys pennau saethau cywrain.

  • Arteffactau metel Rhufeinig megis broetshis.

 

Mae’r darganfyddiadau'n cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a dylai’r canlyniadau roi syniad diddorol iawn i’r gymuned o orffennol yr ardal a fu gynt yn guddiedig.


Mae’r prif safle cloddio yn tarddu o’r cyfnod Neolithig, sef cyfnod yng nghynhanes cynnar, ac mae’n debyg ei fod yn dirwedd ddefodol, sy'n golygu y câi ei ddefnyddio ar gyfer seremonïau.

FML excavations 1


Wedyn cafodd yr ardal hon ei haddasu nifer o weithiau yn ystod cyfnod o ddefnydd o fwy na 3,000 o flynyddoedd. Digwyddiad pwysig yn ei hanes oedd adeiladu beddrod mawr yn yr Oes Efydd lle roedd cyrff yn cael eu claddu.


Digwyddodd hyn drwy gydol cyfnod diweddarach cynhanes ac o bosibl tan y cyfnod Rhufeinig, sy'n awgrymu bod y safle wedi bod yn ganolbwynt pwysig i gymunedau lleol dros lawer o ganrifoedd.


Yn ystod y cloddio, darganfuwyd rhagor o safleoedd nodedig, gan gynnwys tomenni claddu ac amlosgiadau cynhanesyddol eraill o’r Oes Efydd, caeadle anheddiad o gyfnod diweddarach yr Oes Haearn gyda thai crynion a safle gwaith metel Rhufeinig lle arferid mwyndoddi haearn a gwneud gwaith gof.

 

Cynhaliwyd archwiliadau pellach o fila Rufeinig a gloddiwyd o'r blaen yn y 1960au a’r 1970au.
Cafodd yr holl waith ei gynnal o fewn manylebau llym, y cytunwyd arnynt a'u monitro gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent (YAMG), sy'n rhoi cyngor proffesiynol i adran gynllunio’r Cyngor yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.


Rhestrwyd methodoleg fanwl y gwaith mewn Cynllun Ymchwilio Ysgrifenedig a baratowyd gan Cotswold Archaeology ar ran Capita sy’n rheoli’r project ar ran y Cyngor.  


Cafodd y broses o weithredu’r gwaith ei monitro gan YAMG ar ran yr awdurdod cynllunio, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cynllunio Ymchwilio Ysgrifenedig a phob safon broffesiynol berthnasol, gan gynnwys rhai Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr, y cyrff sy'n gosod safonau proffesiynol.  

FML excavations 2

 

Roedd hyn yn cynnwys arolygiadau safle rheolaidd, a chafodd pob cloddiad ei lofnodi'n ffurfiol gan YMAG fel ei fod yn gyflawn ac yn unol â safonau proffesiynol wrth iddo gael ei gwblhau.


Hefyd, cafodd ansawdd y gwaith archeolegol ei fonitro gan ddau sefydliad archeolegwyr ymgynghorol, sef Cotswold Archaeology ac Archaeoleg y Mynyddoedd Duon. 


Cafodd yr holl weddillion dynol eu cloddio, eu cofnodi a’u cymryd ymaith gan gydymffurfio'n llawn â thrwydded a ddosbarthwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o dan Ddeddf Claddu 1857.  


Mae Rubicon Heritage, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent a Cotswold Archaeology oll yn sefydliadau cofrestredig Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr, sy’n gofyn am adolygiad ac archwiliad manwl gan gydweithwyr.


Mae gan y sefydliad dystysgrif Kitemark sy’n dangos ymrwymiad â safonau proffesiynol a chymhwysedd yn y sector treftadaeth.


Mae ennill y sêl ansawdd hon yn gofyn am gadw’n llwyr at god ymddygiad y Sefydliad a’i safonau a’i arweiniad a gyhoeddwyd ar gyfer arfer proffesiynol. Mae’r holl staff uwch o bob sefydliad archeolegol sy’n cymryd rhan hefyd yn aelodau llawn o'r Sefydliad Siartredig. 

 

FML excavations 4

Drwy gydol y project bu Rubicon yn cysylltu’n rheolaidd â'r tîm archeolegol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac mae’r sefydliad treftadaeth genedlaethol, Cadw, hefyd wedi ymweld â’r safleoedd sy’n cael eu cloddio.


Pan fydd yr adroddiadau ôl-gloddio am y darganfyddiadau wedi’u cwblhau, caiff y cyfan ei gymryd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r arteffactau a ddarganfuwyd fel rhan o'r gwaith archeolegol hwn yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar orffennol pell y Fro.


“Rwy’n siŵr bod pawb wedi'u cyffroi cymaint â finnau i ddysgu am beth yn union sydd wedi cael ei ddadorchuddio a beth yw ei arwyddocâd hanesyddol. 

 

“Cafodd yr holl waith ei wneud yn unol ag arferion cydnabyddedig y diwydiant ac wrth ymgynghori â'r holl gyrff proffesiynol perthnasol.”

Dywedodd Mark Collard, Cyfarwyddwr Rubicon Heritage: “Mae’r project hwn wedi datgelu cyfoeth o eitemau sydd o bwys hanesyddol mawr. Peth prin yw adfer cynifer o arteffactau sy'n deillio o gyfnodau amser mor wahanol.

 

“Mae’r darganfyddiadau bellach yn cael eu dadansoddi gan yr arbenigwyr perthnasol ac rydym yn aros â diddordeb am fanylion eu casgliadau.

Read more about the archaeological work