Cost of Living Support Icon

 

Cafodd Bridiwr Cŵn a enillodd £50,000 drwy gam-werthu cŵn ddedfryd ohiriedig ar ôl ei herlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg

Mae bridiwr cŵn wedi cael dedfryd ohiriedig a chyrffyw ar ôl i Lys y Goron Caerdydd glywed iddi hysbysebu cŵn bach i’w gwerthu nad oedd ganddi, wedi dweud celwydd am eu cyfansoddiad genetig a gorfridio ei hanifeiliaid.

 

  • Dydd Gwener, 27 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



Ar ôl erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg, cafodd Lisa Canning ddedfryd o hyd at 30 wythnos ar bob un o’r pum cyfrif, wedi’i ohirio am ddwy flynedd ynghyd â 200 awr o waith di-dâl i’w gwblhau o fewn 12 mis a chyrffyw gyda’r nos am bedwar mis.


Enillodd Lisa Canning tua £50,000 o’r fasnach anghyfreithlon drwy ei busnes 4 Small Paws, a oedd yn y lle cyntaf yn Nwyrain Aberddawan ac wedyn yn Castle-upon-Alun, gan werthu cŵn drwy wefannau megis Pets4Homes, Preloved Pets a Gumtree.


Plediodd yn euog i bedwar achos o dwyll ac un o gymryd rhan mewn arfer masnachol annheg lai nag wythnos cyn bod ei phrawf yn Llys y Goron i fod i ddechrau.

 

Cockerpoo

Roedd Ms Canning yn gwerthu cŵn fel bridiau poblogaidd am brisiau uchel, gan awgrymu bod ganddynt hanes brechiadau a meddygol llawn.


Ond datgelodd ymchwiliad stori wahanol iawn am eu cefndir, er yn aml iawn ni fu cofnod am unrhyw weithdrefnau milfeddygol wedi cael eu gwneud. 
Cafodd rhai cŵn eu prynu o ffynonellau anhysbys, a chafodd rhai eu bridio yn groes i delerau ei thrwydded.


Honnodd Ms Canning ei bod yn gwerthu Cockerpoos, Sbaengwn Adara, Cŵn Labrador Brown, Cavipoos, Pygiau a Daeargwn Albanaidd, er nad oedd llawer o’r cŵn yr un peth ag yr ymddangosant.


Prynodd un teulu yr hyn yr oeddent yn credu mai Cockerpoo oedd e, sef cymysgedd o Sbaengi Adara a Phwdl Miniatur, am £650 ond datgelodd profion DNA fod y ci mewn gwirionedd  25 y cant yn Bwdl Miniatur, 25 y cant yn Bwdl Arffed a 50 y cant yn Bichon Frise.


Dywedwyd wrth unigolyn arall ei fod wedi prynu Labrador Euraid ar ôl talu £750, ond profodd profion DNA ei fod 37.5 y cant yn Labrador Adargi, 12.5 y cant yn Adargi Euraid a 50 y Cant yn Sbaengi Adara.


Gwerthwyd y ddau gi heb waith papur i gadarnhau’r brîd a hanes meddygol, a'r cyfan a roddwyd oedd taleb yn cynnig pedair wythnos o yswiriant am ddim. Yn y ddau achos uchod, profwyd bod amheuaeth ynghylch y dyddiadau geni, ac felly roedd union oedran y cŵn bach yn anhysbys.


Yng nghynelau Ms Canning, aeth cŵn yn feichiog yn amlach nag oedd wedi'i ganiatáu a rhai cyn iddynt fod yn ddigon hen yn gyfreithlon, a oedd yn golygu ei bod yn cynhyrchu mwy o anifeiliaid o lawer nag y caniatawyd.


Yn dilyn arestio Ms Canning, cafodd nifer o anifeiliaid eu rhoi gyda Hope Rescue, sef canolfan lles  ar gyfer dod o hyd i gartrefi newydd i gŵn sy’n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor.


Roedd Ms Canning hefyd yn cymryd rhan mewn arfer o’r enw ‘hysbysebu baetio’, sy’n cynnwys hysbysebu anifail na pherchnogir gan berson er mwyn denu cwsmer i brynu un arall.

 

Cafodd cwsmeriaid hefyd eu camarwain drwy gael eu cyfeirio i brynu cŵn bach Canning gan ffrind iddi a oedd yn esgus bod yn fridiwr preifat. 


Cafodd cyfanswm o dros 100 o gŵn bach eu gwerthu’n anghyfreithlon, er bod cofnodion blêr Ms Canning yn golygu ei fod yn amhosibl gwybod yr union nifer.


Wrth ddedfrydu, dywedodd ei Anrhydedd y Barnwr Crowther QC wrth Lisa Canning fod yr hyn a wnaeth wedi’i wneud er mwyn twyllo’r cyhoedd a'i bod ar ei hennill o £50,000 drwy drosedd. Roedd ganddi drwydded hirsefydlog i fridio cŵn a osododd gyfyngiadau a thorrodd bob un.

Dywedodd: “Nid achos o dim ond methu â chydymffurfio â’r drwydded oedd hwn, ond gwnaethoch bethau eraill i osgoi amodau. Roedd hwn yn ffrynt i fferm cŵn bach ac yn fodd i’r busnesau erchyll hynny weithio. Nid trosedd heb ddioddefwyr mo hon; mae niwed i emosiynau pobl, plant yn enwedig.”


Gorchmynnwyd i Canning dalu cyfanswm o £46,595 mewn costau, iawndal o £3095 a thâl dioddefwr.

Golden Labrador advertDywedodd y Cynghorydd Hunter Jarvie, aelod o Gydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Roedd y busnes hwn yn gweithredu’n dwyllodrus ar raddfa fawr heb unrhyw ystyriaeth o reolau a rheoliadau a roddir ar waith i amddiffyn anifeiliaid a chwsmeriaid.


“Mae gwaith caled gan Swyddogion Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir, ar ran y Cyngor, wedi sicrhau bod yr unigolyn hwn wedi bod yn destun cyfiawnder.


“Ni fydd Cyngor Bro Morgannwg yn goddef y fath hwn o weithrediad, sy’n twyllo pobl sy’n chwilio am anifeiliaid anwes allan o symiau arian sylweddol ac yn cam-drin anifeiliaid. Rwy’n gobeithio y bydd llymder y gosb a roddwyd yn atal pobl eraill sy’n ystyried cyflawni troseddau tebyg.”

Ychwanegodd Vanessa Waddon, Sefydlydd Hope Rescue: “Pan gymerom bedwar o Sbaengwn Ms Canning, pob un yn feichiog, roedd effeithiau defnyddio'r cŵn ifanc hyn fel dim mwy na pheiriannau cenhedlu'n amlwg. Yn ogystal â bod gyda phroblemau iechyd, roeddent oll yn eithriadol o swil ac yn ofnus o bobl.


“Treuliom filoedd o bunnoedd yn gofalu am y cŵn a’u cŵn bach a aned yn ein gofal ni, gan dalu am esgeulustod Ms Canning.

 

 “Roedd hi’n amlwg yn rhoi elw uwch les y cŵn, a diolch i Gyngor Bro Morgannwg am fynd ar ôl yr achos hwn i sicrhau y wynebai hi gyfiawnder.”