Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn cynorthwyo grwpiau cymunedol y Fro â chostau ariannu

 

Bydd digwyddiad gwirfoddoli bach yn Neuadd y Dref Llanfleiddan yn y Bont-faen yn ceisio helpu grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sy’n chwilio am arian at gostau craidd neu broject.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



Gall Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) helpu grwpiau i nodi arianwyr posibl y gallant gysylltu â nhw, neu roi gwybodaeth am sut i ddatblygu ffrydiau incwm cynaliadwy.

GVS

Mae GGM yn cwmpasu nifer o gyfleoedd gwirfoddol, o helpu Plant, gwirfoddoli mewn Chwaraeon, yr Amgylchedd, Ysbytai a Hosbisau a mwy.

 

 

Bydd Swyddog Datblygu GGM, Dave Edwards, yn y digwyddiad ar ddydd Iau 26 Ebrill, o 11am i 1pm ac ar gael i drafod gofynion ariannu.

 

Nid oes rhaid archebu lle ar y diwrnod.

 

Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg ar 01446 741706 neu trwy ebostio enquiries@gvs.wales.

 

 

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.