Cost of Living Support Icon

 

Mission Impossible yn dathlu ail fuddugoliaeth yn olynol yng nghystadleuaeth Cynghrair Boccia'r Fro

 

Daeth Mission Impossible i’r brig yng Nghynghrair Boccia Bro Morgannwg am yr ail flwyddyn yn olynol yng Nghanolfan Adnoddau Hengoleg y Barri.

 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Rhennid y timau yn ddau bŵl ac âi'r timau uchaf o’r ddwy is-gynghrair ymlaen i’r rownd dileu timau.

 

Fe wnaeth Mark Roderick, Carlie Davies and Andrew Davies, aelodau’r tîm Mission impossible, curo’r Red Arrows, i ennill eu hail fuddugoliaeth.

 

Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal y gynghrair, mewn partneriaeth â sefydliadau lleol; a roedd nifer o dimau Boccia yn cymryd rhan, yn cynnwys: Canolfan adnoddau Hengoleg, Sully Scope, Canolfan dydd Woodlands, SEND a Vale Peoples First.

 

Camp i bobl anabl ydy Boccia, lle mae chwaraewyr yn ceisio taflu peli cyn agosed â phosibl at y bêl darged. Mae gan bob tîm chwe phêl goch neu las a chaiff y pwyntiau eu hychwanegu trwy’r gêm nes bo tîm buddugol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, fedelau a thystysgrifau i'r holl gyfranogwyr ar y diwrnod.

 

Dywedodd y Cyng. Kemp: “Da iawn bawb a fu'n rhan o'r gynghrair a llongyfarchiadau i Mission Impossible am eu buddugoliaeth yn y ddwy flynedd.

 

“Mae’n bwysig bod campau'n hygyrch i bawb ac mae’n wych gweld mor galed y mae pawb yn gweithio i drefnu’r gystadleuaeth, o’r gwirfoddolwyr, i’r gyrwyr a'r staff."

 

 

 

2018 Vale Boccia League winners - Mission Impossible

 

 

Fe enillodd Barry Bombers, y Wobr ar gyfer yr ysbryd tîm Dean Evans, am eu hagwedd ac ymdrech rhagorol trwy’r gystadleuaeth.

 

 

Derbyniodd Alan Richard wobr Ysbryd y Gêm, sy'n gyflwynedig i Dilwyn Williams a fu farw yn 2016 yn un o chwaraewyr a fu yn y Gynghrair Boccia hiraf erioed.

 

Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones: “Unwaith eto, roedd safon y Boccia yn uchel ac mae’n gwella o un flwyddyn i'r nesaf.

 

“Mae’n wych gweld y timau’n cymryd rhan, a gallwch ddweud pa mor gystadleuol ydy pawb o'r tawelwch mud sydd yn ystod y gemau. Llongyfarchiadau i’r holl dimau a fu’n rhan a diolch i Hengoleg am dderbyn a dyfarnu’r gemau.”

 

 

 

 

 Teams in the 2018 Vale Boccia League

 

 

Am ragor o wybodaeth am Chwaraeon Anabledd ym Mro Morgannwg, cysylltwch â Simon Jones ar 01446 704728 neu sljones@valeofglamorgan.gov.uk