Cost of Living Support Icon

 

Rhybudd wrth i negeseuon ad-daliad treth ffug gan GTHEM ledaenu drwy'r Fro

Mae pobl sy’n byw yn y Fro wedi adrodd am niferoedd uchel o negeseuon testun ffug. Honnir mai Cyllid a Thollau ei Mawrhydi sydd wedi anfon y negeseuon am ad-daliadau treth dyledus.   

 

  • Dydd Llun, 16 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



Unknown call on mobile phone

 

Mae CThEM yn atgoffa preswylwyr na fyddan nhw fyth yn gyrru hysbysiadau o ad-daliad treth, nac yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth dalu, drwy e-bost neu neges destun.

 

Y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, yw cynrychiolydd y Fro ar Gydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

 

“Mae twyllwyr yn ffeindio ffyrdd i dargedu pobl, ac yn troi at negeseuon testun i gasglu gwybodaeth bersonol gan bobl. Rydym yn annog preswylwyr i beidio â rhoi arian na datgelu unrhyw wybodaeth bersonol mewn neges destun. 

 

Os derbyniwch neges destun gan rywun sy’n honni eu bod gan GThEM, peidiwch a’i hateb, a chofiwch na fydd CThEM fyth yn cysylltu â chi ar neges destun.” - Dywedodd y Cyng. Jarvie

 

Os derbyniwch e-bost neu neges destun ffug gan GThEM dilynwch gyngor GOV.UK, sef:

  1. Gallwch yrru e-bsyt amheus ymlaen at dîm gwe-rwydo CThEM phishing@hmrc.gsi.gov.uk
  2. Os ydych wedi derbyn unrhyw negeseuon testun amheus, gallwch hefyd eu gyrru ymlaen at 60599.

 

Codir eich cyfradd rwydwaith ar negeseuon testun.

 

Os bydd CThEM angen cysylltu â chi am fater cyfrinachol, byddant yn eich ateb drwy ffonio neu drwy’r post.