Cost of Living Support Icon

 

Ymofyn eich barn ar newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff yn Y Fro 

 

Dymuna Cyngor Bro Morgannwg glywed barn trigolion ar newidiadau arfaethedig i gasgliadau ailgylchu a gwastraff, oherwydd nid yw’r model gwastraff ac ailgylchu presennol yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

 

  • Dydd Mercher, 18 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



Er mwyn cwrdd â tharged ailgylchu statudol nesaf Llywodraeth Cymru o ailgylchu 64% erbyn 2019/20 mae Cyngor y Fro yn bwriadu cyflwyno cyfyngiad ar nifer y bagiau gwastraff du y bydd yn eu casglu o bob aelwyd.

 

Mae’r cynigion newydd hyn wedi’u cyflwyno gyda’r nod o gyfyngu ar y swm o wastraff sy’n cael ei gasglu a chynyddu cyfraddau ailgylchu.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig symud o gasgliadau gwastraff ailgylchadwy cymysg i ailgylchu sy’n cael ei ddidoli ar garreg y drws ei wahanu yn y tarddle yn ystod 2019.

 

Dyma'r tri phrif reswm y mae angen i'r Cyngor symud o wastraff ailgylchadwy cymysg: Ansawdd, Dyletswydd Gyfreithiol a Chost.  Nid yw’r model presennol yn cynnig cynnyrch o ansawdd uchel y gellir ei ailgylchu yma yn y DU. Mae’r model didoli ar garreg y drws yn cydymffurfio â Glasbrint Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Llywodraeth Cymru, yn fwy tebygol o gynyddu cyfraddau ailgylchu i fodloni targedau statudol, ac yn debygol o gynnig arbedion sylweddol.

 

Gallwch ddweud eich dweud ar y newidiadau hyn drwy gwblhau arolwg ar-lein 5 munud o hyd ar eich hoff ffyrdd o ailgylchu. 

 

O ddydd Gwener 20 Ebrill, bydd staff Cyngor y Fro yn ymweld ag ardaloedd ledled y sir i gynnig cyngor ar ailgylchu a chasglu adborth trigolion.

 

Am fwy o wyobodaeth ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/recyclingconsultation

 

 

 Recycle Poster_welsh