Cost of Living Support Icon

 

Arddangosfa newydd yn Oriel Gelf Ganolog y Barri yn cynnwys 40 mlynedd o waith

Mae’r artist lleol Peter Sainty wedi casglu 40 mlynedd o waith mewn arddangosfa newydd yn yr Oriel Gelf Ganolog yn Sgwâr y Brenin, Y Barri.

 

  • Dydd Mercher, 08 Mis Awst 2018

    Bro Morgannwg



Yn wreiddiol o Lerpwl, hyfforddodd Peter fel cerflunydd yn Ysgol Gelf Slade, Llundain.

 

Symudodd Peter i Gymru yn 1978, a gallwch weld ei waith yn yr Oriel Cynfasau yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi creu gwaith ar lwyfan i gynyrchiadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

 

Yn arbenigo mewn Cerfluniau Cyfoes, mae ei arddangosiad newydd o’r enw ‘Datblygiadau’ yn cyfeirio at broses weithiol, o astudio gwrthrych, creu syniad, cyn creu'r cerflun.

 

Mae’r gwaith yn cynnwys darnau wedi’u hysgogi gan arlunwyr enwog megis Da Vinci a Boccioni. Mae’r arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 8 Medi.

 

I gael rhagor o wybodaeth ar yr arddangosfa a'r digwyddiadau nesaf, ewch i’r wefan

 

 sculptor pic peter sainty with a y