Cost of Living Support Icon

 

Y Fro yn croesawu myfyrwyr Ewropeaidd fel rhan o Gynllun Cyfnewid Gefeillio Ieuenctid 2018

Teithiodd 18 o bobl ifanc a’u harweinwyr o efeilldrefi Bro Morgannwg fel rhan o gynllun cyfnewid ieuenctid yr haf.

 

  • Dydd Iau, 09 Mis Awst 2018

    Bro Morgannwg



 

Treuliodd myfyrwyr o Rheindelden yn yr Almaen, Mouscron yng Ngwlad Belg a Fécamp yn Ffrainc wythnos yng nghwmni aelodau gwasanaeth ieuenctid y Fro, gan ymweld â’r Fro ac ardaloedd cyfagos rhwng dydd Sul 29 Gorffennaf a dydd Sadwrn 4 Awst.

 

Roedd yr wythnos yn cynnwys gweithgareddau meithrin tîm ac yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu am ddiwylliant ac ieithoedd ei gilydd. 

 

Y prif broject oedd creu darn o waith celf yn cynrychioli'r gefeillio a chafodd ei ddatgelu ar y sgwâr ddydd Gwener.

 

Ar ddiwedd eu taith, datgelodd y myfyrwyr furlun roeddynt wedi’i greu yn ystod yr wythnos â chymorth MCs, Ysgrifenwyr, DJs a pherfformwyr Hip-hop Tanddaearol lleol.

 

Croesawodd Leighton Rowlands, Maer a Hyrwyddwr Ieuenctid Bro Morgannwg, y myfyrwyr yn Siambr Cyngor y Fro ddydd Llun 30 Gorffennaf.

 

Dywedodd Leighton Rowlands: “Rwy’n credu bod rhoi’r cyfle i bobl ifanc gwrdd â phobl ifanc eraill ledled Ewrop yn gyfle ardderchog.  Rwy’n gwybod bod datblygu ein perthynas â’n gefeilldrefi: Fécamp, Mouscron a Rheinfelden, yn hynod o bwysig i Fro Morgannwg ac mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan.    

 

 “Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc o wahanol wledydd ddod ynghyd i ddysgu am ddiwylliant a thraddodiadau ei gilydd, ymarfer siarad gwahanol ieithoedd a gwneud cyfeillgarwch rhyngwladol."

 Vale twinning pic mural unveiling