Cost of Living Support Icon

 

Angen gwirfoddolwyr ar gyfer gwasanaeth llyfrgell cartref y Fro

Mae gwasanaeth Llyfrgell Cartref y Fro’n chwilio am wirfoddolwyr er mwyn gallu cyrraedd hyd yn oed rhagor o bobl yn y sir.

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Awst 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r Wasanaeth Llyfrgell Cartref yn rhad ac am ddim, ac yn darparu llyfrau i ddarllenwyr sydd methu cyrraedd eu llyfrgell leol i ddewis eu llyfrau, a does neb all ddod i’r llyfrgell ar eu rhan.

 

Fel arfer, caiff darllenwyr un ymweliad y mis, a gallan nhw gael benthyg hyd at 10 eitem, sydd wedi eu stampio am bedair wythnos. Gellir rhagnodi llyfrau ar-lein yn ogystal. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd rhestr aros.

 

Mae Veronica Oakes yn defnyddio’r gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn rheolaidd, ac mae Kate, sy'n wirfoddolwr, yn cludo llyfrau i gartref Veronica bob mis.

 

Dywedodd Veronica Oakes: “Rwy’n byw yn y Bont-faen ac wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell cartref am ddwy flynedd a hanner. Mae’n wych, mae’n ffantastig! ‘Dw i’n gaeth yn y tŷ mwy neu lai, ac felly mae'r gwasanaeth yn help mawr i mi."

 

Kate and Veronica library service friends

 

 

Os hoffech chi ymgeisio i fod yn gwirfoddolwyr, fydd angen arnoch chi trwydded yrru ddilys a mynediad i gar sydd wedi ei yswirio a chanddo dystysgrif MOT.

 

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei gyfweld a bydd gofyn iddynt ddarparu geirda. Caiff pawb eu gwirio gan yr heddlu (CRB) a byddan nhw’n derbyn cerdyn adnabod â llun arno. 


Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan

 

Os ydych chi’n adnabod rhywun allai fod yn ddilys i dderbyn y gwasanaeth hwn, neu os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch â Uwch Llyfrgellydd, Melanie Weeks ar 01446 422419 neu anfonwch ebost.