Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn rhoi camau ar waith i ddiogelu pobl sy’n prynu tai ar y Glannau wrth i gamau gorfodi cynllunio ddechrau

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn sicrhau na chaiff y bobl sydd ar fin cwblhau’r broses o brynu tai gan ddatblygwyr yn South Quay Parkside ar Lannau’r Barri cyn y Nadolig eu heffeithio wrth iddo roi camau gorfodi ar waith i atal pobl rhag symud i mewn i dai newydd yn y datblygiad. 

 

  • Dydd Mercher, 05 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Waterfront2O dan delerau’r caniatâd cynllunio a roddwyd ym mis Mawrth 2012, ni ddylai unrhyw un fod wedi symud i mewn i gartrefi yn South Quay Parkside nes y caiff y ganolfan sy’n cynnwys bwytai a chaffis ei chwblhau. Roedd hyn i fod i ddigwydd yn 2016.

 

Ar 23 Tachwedd cyflwynwyd hysbysiad stop dros dro i’r datblygwyr yn gwahardd pobl rhag symud i mewn i dai newydd am gyfnod o 28 diwrnod.

 

Fodd bynnag, roedd yr adeiladwyr tai ar Lannau’r Barri eisoes wedi cyfnewid contractau ar nifer o dai gyda golwg ar gwblhau’r broses honno yn ystod y cyfnod hwn ac wedi addo cwblhau’r broses ar nifer o dai eraill hefyd er nad yw’r contractau wedi’u cyfnewid eto. Byddai gwneud hyn yn mynd yn groes i’r hysbysiad stop.

 

Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Rydym yn ymwybodol bod rhai cwsmeriaid ar fin symud i mewn i’w cartrefi newydd cyn y Nadolig. Er na ddylai’r datblygwyr fod wedi gwerthu’r tai yma iddyn nhw yn y lle cyntaf nid oes gennym unrhyw fwriad i wneud sefyllfa sydd eisoes yn anodd dros ben yn waeth ac rydym wedi cadarnhau na fyddwn yn rhoi unrhyw gamau ar waith yn erbyn yr unigolion dan sylw os byddan nhw’n symud i mewn i’r cartrefi newydd.


 “Mae’r consortiwm o ddatblygwyr wedi anwybyddu eu rhwymedigaethau i adeiladau’r caffis, barrau a bwytai a fydd yn gwneud y Glannau yn gymuned fywiog. Gan wybod eu bod nhw’n mynd yn groes i amodau’r caniatâd cynllunio, maen nhw wedi camarwain eu cwsmeriaid drwy werthu cartrefi i bobl nad oedd hawl eu meddiannu yn ôl y caniatâd cynllunio. Mae hyn yn dangos i’r dim eu hagwedd tuag at eu hymrwymiadau i’r gymuned leol. 


 “Er ein bod ni nawr yn teimlo nad oes unrhyw ddewis arall ond rhoi’r camau cryfaf posibl ar waith i orfodi’r datblygwyr i ddechrau adeiladu’r ganolfan, nid ydym yn teimlo bod rhaid i deuluoedd nad oedd y datblygwyr wedi dweud dim wrthyn nhw am yr amodau perthnasol orfod dioddef.  Nid oes gan y Cyngor unrhyw fwriad i erlid unrhyw unigolyn ond mae’n defnyddio’r holl bwerau sy’n agored iddo i sicrhau bod y datblygwyr yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Yng ngoleuni methiant parhaus y consortiwm o adeiladwyr tai sy’n gweithredu ar y Glannau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y caniatâd cynllunio dan sylw, cyflwynodd y Cyngor Hysbysiad Gorfodi Torri Caniatâd Cynllunio iddyn nhw ar 3 Rhagfyr. 


Bydd hwn yn gwahardd rhagor o bobl rhag symud i mewn i dai newydd yn ardal South Quay Parkside yng Nglannau’r Barri nes bydd y caffis a’r bwytai yn y Ganolfan wedi cael eu cwblhau, oni bai fod y Cyngor yn cytuno i ddiwygio’r amserlen drwy gais cynllunio ffurfiol.