Cost of Living Support Icon

 

Llyfr llofnodion o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei arddangos yn llyfrgell Penarth

Mae arddangosfa wedi ei seilio ar lyfr llofnodion a grëwyd gan nyrs Cymorth Gwirfoddol Neilltuedig o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn llyfrgell Penarth.

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



 

Beatrice Jones
Cafodd y llyfr ei greu gan Beatrice Jones, Nyrs Cymorth Gwirfoddol Neilltuedig yn Ysbyty Sant Ioan, Albert Road, Penarth, ym 1916.

Roedd Beatrice yn gweithio fel nyrs yn yr ysbyty o fis Gorffennaf 1916 tan fis Ebrill 1919, yn nyrsio ochr yn ochr â’i man.

 

 

Ffurfiwyd y system CGN ym 1909, ac erbyn 191 roedd dros 2,550 o unedau ym Mhrydain. 

 

Cyflwynodd Philip Berry, mab Beatrice Berry (neé Jones), y Llyfr Llofnodion ar ‘Diwrnod Treftadaeth Ddigidol’ yn Llyfrgelloedd y Fro.

 

 

Mae’r llyfr yn cynnwys lluniau, llofnodion a statws milwyr oedd yn gwella yn yr ysbyty, ynghyd â gwybodaeth amdanynt.

 

 

 

 

 

Bertram Gurden

Mae Carys Jones, gwrifoddolwraig gyda Phroject Digideiddio Llyfrgell y Fro, wedi ymchwilio i nifer o’r milwyr a ysgrifennodd yn llyfr Beatrice, ac mae eu storïau i’w gweld yn yr arddangosfa.

 

 

Bydd y llyfr llofnodion yn cael ei arddangos tan ddydd Mercher 2 Ionawr.

 

Darllenwch y poster am fwy o wybodaeth.