Cost of Living Support Icon

 

Myfyriwr o’r Fro yn ennill raffl chwarterol Pass Plus Cymru

Dewiswyd Chloe Cotter, o Benarth, ar hap gan Ddiogelwch ar y Ffyrdd Cymru, fel enillydd y wobr chwarterol ddiweddaraf ar gyfer Pass Plus Cymru.

 

  • Dydd Llun, 03 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Dewiswyd Chloe fel buddugwr Bro Morgannwg, i ennill siec am £250 ar ol iddi gwblhau a dychwelyd holiaduron gwerthuso. 

 

Fersiwn uwch o gwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru, a chaiff ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru. 

 

Mae’r cwrs gyrru byr wedi ei ddysgu gan arbenigwyr, a’i nod yw datblygu arferion da, cynyddu ymwybyddiaeth ac ehangu profiad. Mae ar gael i bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yng Nghymru am £20 yn unig, a thelir y gweddill gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant i awdurdodau lleol. 

 

Cyflwynwyd ei siec i Chloe gan y Cynghorydd Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth, a dywedodd: 

 

“Mae Pass Plus Cymru yn gynllun gwych i yrwyr ifanc, yn enwedig am ei fod yn eu helpu i adeiladu eu hyder tra’n gyrru.

 

 “Da iawn Chloe am gwblhau’r cwrs ac mae’n dda gennyf gyflwyno’r siec hwn i ti.”

 

 Chloe and Cllr Cox

 

 

Dwedodd Chloe: “Pan welais e-bost yn dweud mod i wedi ennill £250, doeddwn i ddim yn ei gredu i ddechrau, ond dwi wrth fy modd o gael fy newis.

 

“Pasiais fy mhrawf gyrru ym mis Mai, a chyn i mi ddechrau cwrs Pass Plus Cymru, doeddwn i ddim yn mwynhau gyrru ar y draffordd o gwbl.

 

“Helpodd y cwrs fi i gynyddu fy mhrofiad gyrru ac mae wedi cynyddu fy hyder hefyd.”