Cost of Living Support Icon

 

Artist Cymreig yn dangos ei waith yn Oriel Celf Ganolog

Mae arddangosfa sy’n dangos glannau a dociau gorllewin Cymru gan yr artist Philip Muirden i’w gweld yn Oriel Celf Ganolog y Barri.

  • Dydd Iau, 13 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



 

Agorwyd yr arddangosfa ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr gan Faer y Fro, y Cyng. Leighton Rowlands.

 

Artist Phlip Muirden

Dywedodd y Cynghorydd Rowlands: “Gyda phleser mawr rwy’n croesawu’r

artist, Philip Muirden.

 

"Rydym wrth ein bodd yn cael dangos ei waith yn yr oriel”.  

 

 

Mae gwaith Muirden yn gyfuniad o baentiadau

yn yr arddull swréal a delweddau o fywyd go iawn sy’n ymgysylltu â morlun naturiol, y glannau a’r dociau o amgylch ardal ei eni yn Aberdaugleddau.

 

Mae Philip wedi gweithio fel athro ac uwch-ddarlithydd mewn ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru a gogledd Lloegr, ac roedd yn Bennaeth y Cwrs Sylfaen yng Ngholeg Celf Casnewydd.   

 

 

Mae wedi arddangos yn helaeth ledled Cymru a’r DU gyda sioeau unigol a grŵp.  

 

 

 

Mae gwaith Muirden i’w gael mewn nifer o gasgliadau celf sydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Casnewydd a Chymdeithas Celf Gyfoes Cymru ymhlith eraill.  

 

Mae’r arddangosfa yn y llyfrgell tan ddydd Sadwrn 19 Ionawr.

 

Mae’r galeri ar gau o Ragfyr 24 - 26, ac ar 1 Ionawr.

 

Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth.