Cost of Living Support Icon

 

Arolwg Estyn 2017 yn barnu bod Ysgol Gynradd Tregatwg yn cynnig profiadau dysgu cyffrous i’w disgyblion 

Nododd adolygiad diweddar gan Estyn ar Ysgol Gynradd Gymunedol Tregatwg ar Victoria Park Road, y Barri,  fod yr ysgol yn cynnig profiadau dysgu cyffrous sy’n ymgysylltu â disgyblion yn llwyddiannus ac yn cyfoethogi eu bywydau.

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Barnodd yr arolygwyr bod yr ysgol yn rhagorol o safbwynt Llesiant ac agweddau at ddysgu, Gofal, cymorth ac arweiniad, ac Arweinyddiaeth a rheolaeth. Barnwyd bod y profiadau addysgu a dysgu a’r safonau yn Dda.

 

Mae 471 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, rhwng 3 – 11 oed, gan gynnwys 65 o ddisgyblion meithrin rhan-amser, ac fe ganfu’r adroddiad fod agwedd bron y cwbl o’r disgyblion at ddysgu yn hynod o gref.

 

 

Cadoxton primary school

Canfu arolygwyr fod disgyblion Blwyddyn 6 yn nodi dulliau amgen i wella effeithlonrwydd eu cyfrifiadau a’u bod yn cefnogi dysgu ei gilydd yn effeithiol iawn. Roedd bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda, gan ddweud eu bod yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn mwynhau yr ysgol.

 

 

Adroddir fod yr addysgu drwy’r ysgol yn gyson dda, ac o ganlyniad, mae bron y cyfan o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da wrth symud drwy’r ysgol a bod lleiafrif yn gwneud cynnydd eithriadol.

 

Dywed hefyd fod arweinwyr, staff a llywodraethwyr yn cydweithio’n rhyfeddol o dda i roi gofal, cymorth ac arweiniad neilltuol i ddisgyblion a’u teuluoedd, sy’n ei dro yn arwain at ddisgyblion yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau a’r dylanwad cynhwysfawr sydd ganddynt ar osod cyfeiriad yr ysgol i’r dyfodol.

 

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n hyfryd cael darllen yr adolygiad rhagorol yma ar Ysgol Gynradd Tregatwg.  Mae’n galonogol darllen y cofnod cadarnhaol iawn o reoli newid a bod bron y cwbl o’r disgyblion yn y cyfnod sylfaen yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu sgiliau siarad a gwrando.

 

“Mae’n amlwg fod y Pennaeth a’r aelodau staff wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd dysgu a fydd yn helpu’r disgyblion i ffynnu. Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Tregatwg.”