Cost of Living Support Icon

 

Cynnig cynyddu treth gyngor y Fro gan 3.9%

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i gynnig cynyddu Treth Gyngor y sir gan 3.9% yn 2018/2019 yng nghyfarfod nesaf y cyngor llawn pan benderfynir ar y gyllideb derfynol.

  • Dydd Llun, 19 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, arweinydd y Cyngor:

 
Civic Offices-007

“Gan fod y galw am ein gwasanaethau a’r gost o’u darparu’n parhau i godi, mae’r her o gynorthwyo’r preswylwyr sy’n dibynnu ar y Cyngor yn galetach nag erioed.  

 

“Mae Cyngor Bro Morgannwg bob tro wedi derbyn un o’r setliadau ariannu isaf yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac rydym wedi gweld toriad sylweddol eto yn 2018. Golyga hyn fod nifer o’n gwasanaethau lleol pwysig, yn cynnwys ysgolion ac addysg yn cael eu tanariannu’n sylweddol o’u cymharu â gweddill Cymru.  Er ein bod yn ceisio gwneud arbedion gwerth dros £6.2 miliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r toriad hwn yn golygu nad oes dewis gennym ond codi refeniw yn lleol.  

 

“Rydym yn cynnig cynnydd gan 3.9%, sy’n cyfateb i lai na phunt yr wythnos i breswylwyr sy’n byw mewn eiddo Band D.  

 

“Nid yw hwn yn benderfyniad sydd wedi ei wneud yn hawdd ac rwy’n siŵr y bydd dadlau tanbaid yng nghyfarfod y cyngor llawn yr wythnos nesaf. O ystyried yr anghydraddoldeb yn null Llywodraeth Cymru o ariannu gwahanol awdurdodau lleol, a Chyngor Bro Morgannwg yn dioddef gan flwyddyn wedi blwyddyn o danariannu, dyma yw, rwy’n credu, y ffordd orau o gydbwyso’r angen i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol lleol, megis addysg a gofal cymdeithasol, a'n dyhead i gadw'r cynnydd cyn ised â phosibl.”

 Dyma gyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer 2018/19: 

              

Proposed council tax rates for 2018/19
Band A   £791.28 Band F £1714.44 
Band B  £923.16 Band G £1978.20
Band C  £1055.04 Band H  £2373.84
Band D  £1186.92 Band I £2769.48 
Band E   £1450.68    

 

Nawr aiff hyn i bleidlais fel rhan o gyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 yng nghyfarfod y cyngor llawn ar 28 Chwefror.