Cost of Living Support Icon

 

Cynlluniau cyffrous ar gyfer tafarn adnabyddus yn Y Barri

Mae cynlluniau newydd cyffrous wedi eu cyhoeddi i gadw y Castle Hotel fel tafarn gymunedol, fel rhan o fargen rhwng S.A. Brain  a Chymdeithas Tai Newydd. 

 

  • Dydd Llun, 05 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Er ei bod yn ddyddiau cynnar, bydd y dafarn a reolir gan y gymuned, yn cynnig croeso cynnes i bobl Castleland a'r Barri, gan gynnig bwyd a diod da.

 

Dywedodd y Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae tafarn dda wrth galon pob cymuned ffyniannus a bydd y fenter hon yn cynnig y cyfle i drigolion Castleland chwarae rhan flaenllaw yn y modd y caiff eu tafarn leol ei redeg. Gall fod yn ganolfan ar gyfer ystod o weithgareddau yn yr ardal, tra bydd creu cartrefi fforddiadwy yn cynnig cyfle i rai sy’n ei chael yn anodd prynu eiddo i gymryd y cam cyntaf."

 

Dywedodd Derek Brotton o grŵp Hyb Castleview, “Mae sin sgitls hyfyw yn y Barri a bydd y project yma yn help i hyrwyddo’r traddodiad hwnnw.”

 

Bwriad Cymdeithas Tai Newydd yw adeiladu 14 o dai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol uwch ben y dafarn gymunedol fel rhan o fargen hefyd i brynu Clwb Llafur Sea View gan gwmni S.A. Brain. 

 

 

Cllrs at the Castle pub

 

 

 

 

Ychwanegodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd, “Mae’r fenter newydd yma yn ein cyffroi ni. Nid yn unig y bydd yn cynnig cartrefi fforddiadwy i bobl leol, ond bydd y dafarn hefyd yn  gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned a’u bywydau cymdeithasol.”

 

Mae Tîm Datblygu Economaidd Cyngor y Fro wedi denu cefnogaeth gan Binki Rees, a weddnewidiodd dafarn y Lansdowne yn Nhreganna yn Dafarn Gwrw’r Flwyddyn i CAMRA. Dywedodd Binki: “Rydym am glywed gan bobl Castleland a thu hwnt yn y Barri am yr hyn yr hoffent  ei weld yn y dafarn. Pa fath o fwyd ydych chi’n ei hoffi? Pa un yw eich hoff gwrw? A fyddem yn gallu cynnig gofod i’ch grŵp cymunedol? Ar sail fy mhrofiad i, mae cael syniadau gan bobl leol o ran datblygiad y dafarn yn mynd i fod yn allweddol os yw i lwyddo fel tafarn wrth galon cymuned hyfyw.”

 

Mae’r syniad o dafarn gymunedol wedi derbyn cefnogaeth gan Jane Hutt AC, a ddwedodd am y cynllun arfaethedig, “Rwyf wedi bod yn cefnogi grŵp Hyb Castleview ar y project hwn i ddiogelu dyfodol y Castle Hotel a gweithgareddau Clwb Llafur Seaveiw. Rwy’n hynod falch ei fod yn symud yn ei flaen mor gadarnhaol gan ddod â’r gymuned ynghyd.”

 

Bydd y rhai sy’n ymwneud â’r project, ynghyd â phartneriaid fel y Gwasanaeth Ieuenctid a Heddlu De Cymru yn cefnogi diwrnod agored cymunedol ar 17 Chwefror 2018 rhwng 12.00pm a 3.00pm. Bydd gweithgareddau i’r teulu am ddim a lluniaeth ar gael ar y diwrnod, a chyfle i fynd ar daith yn yr adeilad, chwarae rhywfaint o sgitls a chynnig eich syniadau ar sut olwg ddylai fod ar y dafarn berffaith.”

 

 

 Cllrs in front of Castle pub