Cost of Living Support Icon

 

Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn annog pobl i wirio sgôr hylendid ar fwytâi ar draws Y Fro cyn diwnrod Sant Ffolant 

 

Mae pobl yn cael eu hannog i wirio sgôr hylendid ar fwytai ar draws Bro Morgannwg, cyn penderfynu ar ba un i ddewis i fwynhau ar ddiwrnod sant ffolant. 

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos sgôr sy'n seiliedig ar eu safonau hylendid. Mae'r sgôr yn cael ei dyfarnu yn dilyn arolygiad gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Mae busnesau yn yr ardal yn cael eu sgorio o '0', sy'n golygu bod 'angen gwella ar frys' i'r sgôr uchaf o 5, sy'n adlewyrchu safonau ‘da iawn’.       

 

Mae dros 900 o bwytai ar draws Y Fro gyda’r sgor hylendid bwyd o 3 neu’n uwch. 

 

 

 

v day scoreboard

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol: “Mae Diwrnod Sant Ffolant yn gyfnod prysur i fwytai, caffis, tafarndai a busnesau bwyd lleol eraill.

 

 

"Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn haws i bawb ddewis  pryd rhamantus mewn lle sy'n cymryd hylendid bwyd o ddifrif. Mae Sgôr Hylendid Bwyd uchel yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi."

 

 

 

 

Cofiwch gadw llygad am y sticer du a gwyrdd yn y ffenest neu ar y drws. Mae logo Llywodraeth Cymru arno ac mae'n nodi'r Sgôr Hylendid Bwyd.

 

 

 

Mae'n rhaid i fusnesau tecawê hefyd ddarparu gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'w Sgôr Hylendid Bwyd ar eu taflenni/bwydlenni.

 

 

Os nad ydych chi'n gallu gweld y sticer, ewch ati i holi aelod o staff neu gallwch chwilio ar-lein drwy: www.food.gov.uk/sgoriau. Os na allwch chi gael gwybodaeth am Sgôr Hylendid Bwyd busnes,dylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol. 

 

 

 

Meddai Richard Bowen, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Nid yw awyrgylch rhamantus neu wefan bwyty yn rhoi gwybod i chi sut siâp sydd ar ei safonau hylendid bwyd. Ond mae'r Sgôr Hylendid Bwyd yn rhoi syniad i chi o beth sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig y gegin, felly dylech chi ystyried hynny wrth benderfynu ble i fwyta ar Ddiwrnod Sant Ffolant.”