Cost of Living Support Icon

 

Enwau i gael eu pennu ar gyfer dwy ysgol newydd yn y Barri

Ysgol Gyfun Pencoedtre ac Ysgol Gyfun Whiltmore yw'r enwau arfaethedig ar gyfer y ddwy ysgol rhyw cymysg newydd yn y Barri.

 

  • Dydd Mercher, 28 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



MDRS Cluster GroupDewiswyd yr enwau gan ddisgyblion Ysgolion Cyfun y Barri a Bryn Hafren fydd yn symud i'r ysgolion newydd ym mis Medi yn ogystal â disgyblion fydd yn dod o’r ysgolion cynradd bwydo.


Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau:

 

“Mae’n bwysig bod yr enwau yn cyflwyno hunaniaethau’r ysgolion eu hunain, eu cysylltiadau â'r ardal leol, ac yn bennaf, yn ennyn ymdeimlad o adnabod yn y disgyblion. Dyna pam ddydd Llun byddaf yn argymell ein bod yn cymeradwyo dewis dau enw ardderchog  a gafodd eu datblygu a’u cymeradwyo gan y disgyblion eu hunain. Mae’r un disgyblion hynny bellach yn datblygu logos ysgol newydd a pholisïau gwisg ysgol, gyda chymorth gan staff y cyngor a’r ysgol”. 


Bu’r  grwpiau clwstwr ysgol ar gyfer safle Port Road (Ysgol Gyfun Whitmore yn fuan) a'r safle Merthyr Dyfan Road (Ysgol Gyfun Pencoedtre yn fuan) yn cwrdd â hanesydd lleol a phennaeth Ysgol Gyfun St Cyres, Dr Jonathan Hicks, i drafod syniadau am enwau ym mis Tachwedd 2017. Yn y sesiynau hyn, trafododd y grwpiau hanes safleoedd yr ysgolion a’r ardaloedd o’u cwmpas, yn ogystal â’r Barri a'r Fro i gyd, cyn cymryd rhan mewn gweithdai i ddatblygu enwau posib. Ar ôl y sesiynau hyn, cyflwynwyd rhestr fer o enwau i'r holl ddisgyblion a staff a bu'r adborth yn cael ei anfon i'r ddau gorff llywodraethu i'w ystyried. 


New names chosen for Barry schoolsDywedodd Dr Vince Brown, Pennaeth Gweithredol y ddwy ysgol newydd: “Mae’r disgyblion wedi dewis enwau sy’n amlygu'r uchelgais sydd gennym y bydd yr ysgolion newydd wrth wraidd eu cymunedau. 


“Mae Ysgol Gyfun Pencoedtre yn cyfeirio at yr ardal yr adeiladwyd yr ysgol arni a lle mae nifer mawr o ddisgyblion yn byw. Mae Coed Pencoedtre yn un o’r coetiroedd mwyaf yn y Barri ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Felly, mae cysylltiad cryf â’r amgylchedd naturiol sy’n gwneud y Fro yn unigryw.” 


“Mae Ysgol Gyfun Whitmore yn cyflwyno cysylltiad clir rhwng yr ysgol ac un o nodweddion mwyaf eiconig y Barri, yn enwedig rhannau gorllewinol y dref fydd yn eu gwasanaethu. Mae Bae Whitmore yn golygu llawer o bethau i lawer o bobl ond mae’r pethau hyn yn bositif i gyd a bydd yr enw yn sicrhau y bydd enw’r ysgol newydd yn ennyn ymdeimladau positif.”  

Gan fod yr enwau yn barod i’w cytuno, bydd sesiynau i ddatblygu syniadau am logos ysgol, brandio a gwisg ysgol.