Cost of Living Support Icon

 

Cynigiwyd trefniadau casglu newydd ar gyfer gwastraff a deunydd ailgylchu yn y Fro

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig newid i ailgylchu ar wahân a rhoi terfyn ar nifer y sachau du sy’n cael eu casglu fel rhan o strategaeth newydd i gynyddu lefelau ailgylchu a thorri costau.

 

  • Dydd Gwener, 16 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



Os cytunir ar adroddiad sy’n mynd i Gabinet y Cyngor ddydd Llun, gallai’r ymgynghoriad ddechrau ar y ffordd orau o roi’r newidiadau hyn ar waith, gan ddisgwyl i’r mesurau newydd ddod i rym o fis Medi. 

 

Recycling lorry

Meddai’r Cyng. Geoff Cox, Aled y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth, “Rhaid i’r Cyngor newid y ffordd mae’n casglu gwastraff a deunydd ailgylchu preswylwyr er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn cydymffurfio â newidiadau i’r gyfraith ac, yn bwysicach, ei gwneud yn gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

 

“Mae’r newidiadau rwy’n eu cynnig wedi cael eu pennu ar ôl gwerthusiad trylwyr o’r holl opsiynau posib ac maent yn amodol ar y Cyngor yn derbyn grant cyfalaf sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda chostau seilwaith. Fodd bynnag, byddwn yn penderfynu sut i’w rhoi ar waith ar sail barn preswylwyr. 

 

“Fel sir rydym wedi cael targed heriol gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o wastraff y Fro erbyn 2025. Yr unig ffordd y gallwn ni gyflawni hyn yw os yw mwy o breswylwyr nag erioed yn fodlon chwarae eu rhan nhw wrth ailgylchu ac yn fuan byddwn ni’n lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus i hysbysu preswylwyr am y newidiadau a pham mae’n rhaid i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i’w gwneud yn llwyddiannus."

Nid yw’r gwydr, papur, tuniau a phlastig a gesglir yn y Fro yn cael eu hailgylchu gan y Cyngor; yn hytrach, cânt eu gwerthu gan gontractwr ailbrosesu yng ngogledd Lloegr i gwmnïau preifat ledled y byd. Oherwydd y costau prosesu a theithio cysylltiedig, nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw incwm am y deunydd. Bydd casgliadau ar wahân yn arwain at lefelau halogi llawer is ac, yn eu tro, at bris gwerthu uwch am y deunydd.

 

Bydd modd hefyd i’r Cyngor ddod o hyd i’w farchnadoedd ei hun oherwydd gwerth uwch y deunydd a bydd yn ceisio dod o hyd i’r marchnadoedd hyn mor agos at Fro Morgannwg â phosib.  Yn ogystal â’r newidiadau i gasgliadau, mae’r Cyngor yn bwriadu adeiladu gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd yn y Fro lle gellir storio deunydd ailgylchadwy cyn ei werthu. 

 

Rhagwelir y bydd y gostyngiad sylweddol yng nghostau cludo deunydd ailgylchadwy, yn ogystal â’r pris gwerthu uwch, yn arwain at arbedion gwerth tua £400,00 bob blwyddyn i’r Cyngor, Yn ogystal â sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth ddiweddar, byddai newid o system casglu gwastraff ailgylchadwy cymysg hefyd yn golygu y byddai’r Cyngor yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru.