Cost of Living Support Icon

 

Gwanwyn Glân Cymru

Ymunwch â Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru 2018 – ymgyrch genedlaethol yn annog pobl yng Nghymru benbaladr i helpu i lanhau ein gwlad brydferth ni

 

  • Dydd Llun, 26 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



Spring Clean Cymru welsh

 

Keep Wales Tidy

Rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Gwanwyn Glân Cymru’ Cadwch Gymru'n Daclus fis Mawrth yma. Bydd ein timau gwastraff ac ailgylchu wrthi’n casglu’r gwastraff a gasglwyd gan ein gwirfoddolwyr gwych. 

 

Yn rhan o ymgyrch Brydeinig, mae Cadwch Gymru'n Daclus am ysbrydoli’r Cymry i fynd allan, bod yn actif ac ymfalchïo yn eu bröydd. 

 

Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau oll yn cymryd rhan mewn pedwar diwrnod o weithredu o 1-4 Mawrth 2018.

 

Sut mae cymryd rhan? 

Mae nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Fro i drigolion gyfrannu atynt:

  • 01 Mawrth, 10:00 - Traeth Porthceri gyda Cadwch Gymru'n Daclus

  • 01 Mawrth, 3.00pm

    Pigo sbwriel yn y gymuned â thrigolion Tresimwn â Cadwch Gymru'n Daclus

  • 02 Mawrth, 10.00am - Treetops, y Barri gyda Cadwch Gymru'n Daclus

  • 02 Mawrth, 2.00pm -Pigo sbwriel yn y gymuned â thrigolion Tresigin â Cadwch Gymru'n Daclus

  • 03 Mawrth, 10:00am - Pigo sbwriel yng Ngwenfô gyda Grŵp Bywyd Gwyllt Gwenfô

  • 03 Mawrth, 

    10:00am - Glanhau Traeth Llanilltud Fawr â Glanhau Arfordir y Fro

  • 04 Mawrth, 

    10:00am - Pigo sbwriel yn y Bont-faen â Caru’r Bont-faen, Casáu Sbwriel

  • 04 Mawrth, 

    10:00am - Pigo sbwriel Marina Penarth â Phigwyr Sbwriel Marina Penarth

  • 04 Mawrth, 

    1

    0:00am - Tregatwg, Y Barri â Grŵp Cadwraeth Tregatwg

 

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Gwanwyn Glân Cymru drwy ddilyn #GwangwynGlânCymru ar y cyfryngau cymdeithasol.