Cost of Living Support Icon

 

Y Fro yn dathlu Mis Hanes LHDT 

Caiff y faner enfys ei chwifio y tu allan i’r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri i nodi Mis Hanes LHDT.  

 

  • Dydd Llun, 05 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



Codwyd y faner gan Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas i nodi’r mis ac i ddathlu cynnydd y Cyngor o ran ei waith yn cefnogi’r gymuned LHDT, yn y gweithle ac yn y gymuned.  


Ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall diweddaraf, cododd y Cyngor 122 o safleoedd i safle rhif 293, ar ôl rhoi cynllun gweithredu ar waith yn 2017 i wneud y sefydliad yn fwy cyfeillgar i bobl LHDT.  

 

Rainbow Flag Raising

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth LHDT i lawer o’i staff, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion; mae wedi cymryd rhan yn rhaglen ‘Cynghreiriaid LHDT’ Stonewall, gan wahodd staff i sefydlu a chyfrannu at rwydweithiau LHDT mewnol; defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu negeseuon am ddigwyddiadau LHDT; annog staff i gymryd rhan mewn arolwg adborth staff annibynnol Stonewall; a chwifio’r faner enfys ar gyfer Mis Hanes LHDT a Pride Cymru 2017.  

 

Dywedodd y Cyng. Thomas:

“Mae’n wych gweld bod Stonewall Cymru wedi cydnabod y datblygiad sylweddol y mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae gwaith anhygoel yn cael ei wneud ar draws y sefydliad a hoffwn barhau i ddatblygu ar hyn. 


“Wrth gwrs, mae llawer mwy o waith i’w wneud i gyflawni ein nodau.  Mae gennym eisoes gynlluniau ar waith i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau mewnol i wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys yr holl staff; cryfhau ein rhwydweithiau LDHT mewnol a gwella’r rôl mae’n ei chwarae; a datblygu a chodi ymwybyddiaeth o’n polisïau i gefnogi cyflogeion traws a phobl â hunaniaeth anneuaidd.”  

 

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: 

“Rwyf wastad yn cael fy mhlesio gan sut y mae cyflogeion ar draws Cymru yn trawsnewid bywydau pobl LHDT a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod ein cenedl fach falch unwaith eto ar flaen y gad.   


“Er gwaethaf mwy o hawliau i bobl LHDT yn y blynyddoedd diweddar, gwyddom fod pobl yng Nghymru yn dal i ddioddef gwahaniaethu, camdriniaeth ac unigedd yn y gwaith, yn y cartref ac yn ein cymunedau.   Mae gwaith cyflogeion sy’n gynhwysol o bobl LHDT yn hanfodol wrth sicrhau cenedl fwy ffyniannus, iachach a fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  


“Mae creu’r amgylchedd gorau yn y gwaith i’r holl staff yn arwain at weithlu hapusach ac iachach, gwasanaethau gwell, yn ogystal â chynyddu cynhyrchedd.  Mae cydraddoldeb yn y gweithle hefyd yn dda ar gyfer busnes.   
“Mae ein senedd genedlaethol yn cyflawni ei dyletswydd drwy hyrwyddo cydraddoldeb, yn enwedig cydraddoldeb traws.  Mae’r camau cadarnhaol maent wedi’u cymryd yn gosod esiampl wych i bob cyflogwr o ran faint y gellir ei gyflawni gyda’r arweinyddiaeth gywir a’r awydd i wneud newid cadarnhaol.” 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cefnogi digwyddiad cymunedol o’r enw ‘Dimensiynau Rhywedd yng Nghymru a Thu Hwnt’ a gynhelir yn Neuadd Gorffa y Barri ar 06 Mawrth.  Nod y digwyddiad yw hyrwyddo gwell dealltwriaeth o hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb.   Bydd yn canolbwyntio’n arbennig ar hawliau a phrofiadau menywod trawsryweddol a phobl anneuaidd.