Cost of Living Support Icon

 

Angen Gwirfoddolwyr ar gyfer Arolwg Ailgylchu

Mae angen gwirfoddolwyr gan fod Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig newid i ailgylchu ar wahân a rhoi terfyn ar nifer y sachau du sy’n cael eu casglu fel rhan o strategaeth newydd i gynyddu lefelau ailgylchu

 

  • Dydd Mawrth, 20 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



Selection or recycling

Bydd newid i gasgliadau ar wahân yn lleihau lefelau halogi.  Rhaid i’r Cyngor newid y ffordd mae’n casglu gwastraff a deunydd ailgylchu preswylwyr er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn cydymffurfio â newidiadau i’r gyfraith ac, yn bwysicach, ei gwneud yn gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

 

Fel sir rydym wedi cael targed heriol gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o wastraff y Fro erbyn 2025. Yr unig ffordd y gallwn ni gyflawni hyn yw os bydd mwy o breswylwyr nag erioed yn fodlon chwarae eu rhan nhw wrth ailgylchu ac yn fuan byddwn ni’n lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus i hysbysu preswylwyr am y newidiadau a pham mae’n rhaid i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i’w gwneud yn llwyddiannus.

 

Angen Aelwydydd Gwirfoddol

Rydym yn chwilio am gymysgedd o aelwydydd o bob rhan o’r Fro, gan amrywio o rai ag un preswylydd neu gartrefi a rennir i deuluoedd o bedwar neu fwy.

 

Byddai’n rhaid i breswylwyr fod yn fodlon i ganiatáu i ni gasglu eu gwastraff a’u deunydd ailgylchu a chynnal arolwg o’r gwastraff sy’n cael ei greu mewn pythefnos. 

 

Dyma gyfle unigryw i breswylwyr gynyddu’r swm maent yn ei ailgylchu a lleihau gwastraff cyn i’r newidiadau arfaethedig ddod i rym. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn pecyn ailgylchu am ddim a rhoddion.

 

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr arbrawf hwn, cwblhewch y ffurflen ganlynol a’i hanfon i: 

  

*Ceisiadau wedi cau nawr*

 

Am ragor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig i wastraff ac ailgylchu, darllenwch ein llythyr gan y Cyng. Geoff Cox, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:

 

 

Esbonio Newididau i Ailgylchu a Gwastraff