Cost of Living Support Icon

 

Ail gam Project Ysgolion y G21 yn gweld buddsoddiad o £140 miliwn ym maes addysg ledled Bro Morgannwg

Disgwylir i Gyngor Bro Morgannwg ddechrau ar ail gam ei raglen Ysgolion y G21, fydd yn cynnwys buddsoddiad o £140 miliwn na welwyd ei debyg o’r blaen mewn ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac ysgolion ffydd yn y Sir.  

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg

    Barri

    Cowbridge

    Rural Vale

    Penarth



Ar ôl gwario £31 miliwn ar gam cyntaf y rhaglen, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ystod o ddatblygiadau cyffrous fel rhan o Fand B yn dechrau’n fuan, gyda disgwyl i sawl project ddechrau ymhen ychydig fisoedd.


Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i wella cyfleusterau addysgol a bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i filoedd o blant ledled y Fro.


schools1borderMae gwaith i greu dwy ysgol cymysgryw Saesneg i ddisodli ysgolion cyfun rhyw unigol Bryn Hafren ac Ysgol Gyfun y Barri eisoes ar y gweill.


Bydd cael cyllid Band B yn sicrhau y bydd yr ysgolion hyn, y disgwylir iddynt agor ym mis Medi 2018, yn derbyn buddsoddiad sylweddol ar gyfer eu hadeiladau. 


Bydd addysg uwchradd Gymraeg hefyd yn manteisio dan Fand B, gyda disgwyl i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg gael ei gwella a'i hymestyn yn helaeth er mwyn rhoi lle i nifer cynyddol o ddisgyblion sydd yn dymuno addysg uwchradd trwy'r cyfrwng hwnnw yn ardal y Barri.  


Cost Band B rhaglen Ysgolion y G21 y Cyngor fydd £142,417 miliwn, gyda £83,825 miliwn yn dod gan Lywodraeth Cymru.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo achosion busnes yr holl gynlluniau.


Mae cynlluniau a fydd yn destun ymgynghoriad yn cynnwys: adeiladau modern newydd ar gyfer ysgol Gynradd Dewi Sant yn Nhregolwyn ac Ysgol Gynradd Llancarfan, adeilad ysgol wedi’i ymestyn a’i ailfodelu ar gyfer Sain Nicolas, adeiladau ysgol newydd ac wedi’u hailfodelu yn y Bont-Faen, ysgol newydd ar Lannau’r Barri ac ysgol Gatholig newydd ar gyfer disgyblion 3-16 oed.

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Rwy’n falch ei bod wedi bod yn bosibl sicrhau swm mor sylweddol o arian ar gyfer y rownd ddiweddaraf o waith yn y project cyffrous hwn.


“Bydd maint y buddsoddiad yn ein galluogi i ddechrau ar amrywiaeth o brojectau a all gael goblygiadau cadarnhaol pellgyrhaeddol ar bob rhan o dirlun addysgol Bro Morgannwg. Disgwylir i ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd, Cymraeg, Saesneg ac ysgolion ffydd fanteisio ar y gwaith gwella arloesol hwn.”