Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn sicrhau sioe fisol ar Bro Radio 

Mewn ymgais i amlygu gwaith y sector gwirfoddol ar draws y sir, mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) wedi sicrhau sioe fisol gyda Bro Radio. 

 

  • Dydd Mercher, 24 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae’r Sector Gwirfoddol yn chwarae rôl bwysig ym Mro Morgannwg, a bydd y sioe radio fisol hon yn cynnig y cyfle i sefydliadau sôn am eu gwaith.

 

 

Mae GVS yn mynd ati i annog unrhyw sefydliad gwirfoddol neu grŵp cymunedol i sôn am ei broject, ymgyrch, digwyddiad neu waith newydd trwy fynychu sesiwn radio neu drwy wneud recordiad ymlaen llaw gyda GVS.

Os hoffech chi godi proffil eich sefydliad, ffoniwch Paul Warren, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) 01446 741706 neu anfonwch e-bost

 

 

Caiff tri chyflwyniad eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Penarth Isaf y mis nesaf, fel rhan o Rwydwaith Gweithredu Gwirfoddol a Datblygu Cymunedol y Fro GVS.

 

Paul Warren and Clare Humphreys of GVS

Ddydd Mawrth 6 Chwefror, bydd Claire Guthrie o CAB Casnewydd yn siarad am y Gwasanaeth Cymorth Gamblo sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth am ddim ar gyfer y rhai sy’n cael problemau gyda gamblo.

 

Bydd Andrew Jones, sy’n gweithio gyda Gweithredu Caerdydd a’r Fro dros Iechyd Meddwl, yn darparu diweddariad ar y project ‘Pave the Way’ sy’n darparu cymorth i bobl sydd â salwch meddwl a bydd Denise Dyer o Ymddiriedolaeth y Gofalwyr De-ddwyrain Cymru yn darparu gwybodaeth am “Hyb y Gofalwyr” y maent yn cynnig ei ddatblygu ar gyfer Caerdydd a’r Fro.

 

 

Os hoffech chi fod yn bresennol yn y diwrnod rhwydwaith, cysylltwch â Dave Edwards ar 01446 741706 neu e-bostiwch dave@gvs.wales

 

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.