Cost of Living Support Icon

 

Mae Ysgol Gynradd Llancarfan yn debygol o gael adeilad ysgol modern newydd

Disgwylir i ymgynghoriad ddechrau ar gynigion a fyddai’n golygu symud Ysgol Gynradd Llancarfan i adeilad modern newydd yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 17 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg

    Rural Vale

    Barri



schools4Byddai’r cynnig cyffrous hwn yn cynnwys adeilad ysgol â 210 o leoedd ym mhentref y Rhws, gan gynnig y cyfle i ateb galw lleol sy’n cynyddu yn ogystal â chreu amgylchedd dysgu modern ar gyfer disgyblion a staff presennol yn Ysgol Gynradd Llancarfan, sef hen ysgol Fictoraidd ar safle bach. 


Ni fydd y datblygiad yn effeithio ar Ysgol Gynradd y Rhws.


Mae’r project yn costio mwy na £4 miliwn, a byddai hanner y swm hwnnw'n cael ei ddarparu drwy grant gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhan o fuddsoddiad eang ym maes addysg yn y Fro yn rhan o Fand B cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.


Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Bydd y project hwn yn golygu symud Ysgol Gynradd Llancarfan i gyfleusterau modern iawn a newydd sy’n gallu darparu ar gyfer y nifer fwy o ddisgyblion, y disgwylir iddynt ei mynychu.


“Dim ond rhan o fuddsoddiad helaeth ym maes addysg yn y Fro yw hon, a fydd yn cynnwys gwella cyfleusterau’n sylweddol ym mhob rhan o’r Sir.
“Mae gwaith i gyflawni’r nod hwnnw eisoes wedi dechrau a byddwn yn cyhoeddi manylion am gynlluniau eraill dros y misoedd sy’n dod.”