Cost of Living Support Icon

 

Cynllun grant newydd yn cynnig hyd at £900 ar gyfer projectau ieuenctid trwy Fro Morgannwg 

 

Mae cynllun grant newydd ar gyfer unrhyw un a hoffai gychwyn project ieuenctid er budd pobl 14-25oed ym Mro Morgannwg. 

 

  • Dydd Iau, 04 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



  

Mae 'Dish out Dosh' yn gynllun grant sy’n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, elusen sy’n rhedeg sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ym Mro Morgannwg, a all gynnig hyd at £900 o arian grant i brojectau ieuenctid.

 

 

Derbyniodd aelodau Clwb Nofio Anabl Barry Beavers arian grant o’r blaen gan Dish out Dosh.

 

 

Dywedodd llefarydd ar gyfer Barry Beavers, Chris Economides: “Mae Barry Beavers yn falch iawn o ‘r llyfr atgofion Sblish Sblash y mae newydd ei gyhoeddi. Mae Barry Beavers yn ddiolchgar iawn i’r holl gyfranwyr.

 

Dim ond trwy grant 'Dish out Dosh' gan Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg y bu modd i ni wneud hyn, felly diolch yn fawr i bawb yno.”

 

Mae ffurflenni ar gael yn nawr, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr am 12yp.

 

 

I lawrlwytho’r ffurflen gais, ewch i’r wefan.

 

Am fwy o wybodaeth neu i dderbyn copi called o’r ffurflen gais, cysylltwch â GVS ar 01446 741706 neu e-bostiwch  enquiries@gvs.wales 

 

 

 Barry Beavers team with GVS Paul Warren