Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd perchenogion eiddo a busnesau i ddigwyddiad safleoedd gwaith newydd a gynhelir gan dîm Cymunedau Gwledig Creadigol Bro Morgannwg

 

Mae 'Digwyddiad Safleoedd Gwaith Newydd Ysbrydoledig' yn gwahodd busnesau a pherchenogion i ddysgu mwy am y buddion sy’n gysylltiedig ag adeiladau nad defnyddir ddigon arnynt ledled y sir. 

  • Dydd Gwener, 05 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg wedi cynllunio’r digwyddiad hwn ar gyfer dydd Mercher 17 Ionawr am 5.30pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd.  

 

Trefnwyd y digwyddiad yn dilyn gwaith ymchwil ar ailddefnyddio adeiladau segur ac adeiladau nas defnyddir digon arnynt yn y Fro Wledig at ddibenion busnes. 

Creative-Rural-Communities-logo

 

 

Mae’r project hwn wedi derbyn arian drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Cymru sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.

 

 

 

Mae adborth a gyflwynwyd ar-lein wedi tynnu sylw at y ffaith fod rhai tirfeddianwyr yn y Fro Wledig yn ansicr o ran beth i’w wneud gyda’u hadeiladau adfeiliedig, ac mae busnesau yn ei chael yn anodd dod o hyd i leoliadau priodol.  

 

 

Dywedodd Cynghorydd Johnathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Mae’r Cyngor eisiau sicrhau bod digon o safleoedd gwaith ar gael yn y Fro.  Mae addasu ac adnewyddu adeiladau gwledig ar gyfer mentrau gwledig yn cynnig y cyfle i ehangu nifer y safleoedd sydd ar gael. 

 

"Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddysgu gan ein panel o arbenigwyr sydd wedi bwrw ati i drawsnewid safleoedd yn weithleoedd arloesol."

 

I gofrestru eich lle ar y digwyddiad, cysylltwch â Clair Bonter ar 01446 704828.  

 

Darllenwch mwy am y prosiect ar y wefan.